Cynllwyn honedig i gipio, treisio a llofruddio Holly Willoughby yn 'ffantasi'n unig'
Mae cyn swyddog diogelwch sydd wedi ei gyhuddo o gynllwynio i “gipio, treisio a llofruddio" Holly Willoughby wedi dweud mai “ffantasi” oedd y cynllun honedig.
Mae'r erlyniad yn yr achos yn honni fod Gavin Plumb, 37 oed, wedi casglu offer ar gyfer cyflawni trais rhywiol yn erbyn y cyn-gyflwynydd This Morning rhwng 2021 a 2023.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau o gymell llofruddiaeth, annog herwgipio ac annog trais rhywiol.
Wrth siarad yn Llys y Goron Chelmsford ddydd Gwener, dywedodd yr amddiffynnydd ei fod yn “dorcalonnus” ac wedi “siomi a rhyfeddu” bod cynnwys ei sgyrsiau ar-lein ynghylch y cynllun honedig wedi eu datgelu.
Dywedodd Plumb bod y sgyrsiau “tywyll” yn rhai yr oedd yn eu “difaru’n fawr”, ond roedd yn mynnu mai “ffantasi” oedd y cynllwyn honedig, ac nid un gwirioneddol.
Mewn lluniau camera corff a ddangoswyd yn y llys, gwelwyd swyddogion yr heddlu yn mynd i mewn i fflat Mr Plumb yn Harlow, Essex, ar 4 Hydref y llynedd.
Fe gafodd ei roi mewn gefynnau gan heddweision, gan ddweud: “Beth ydych chi’n siarad am? Plîs eglurwch beth sy’n mynd ymlaen.”
Eglurodd swyddog o’r llu ei fod yn cael ei arestio am gynllwynio i herwgipio Ms Willougbhy.
Yn y lluniau camera o’r diwrnod, dywedodd Plumb wrth swyddogion: “Wna i ddim dweud celwydd, mae hi yn ffantasi i mi.”
Yn gynharach yn yr wythnos, clywodd y llys fod Plumb wedi creu cynlluniau “graffig” i herwgipio, treisio a llofruddio Ms Willoughby gyda heddwas cudd o'r Unol Daleithiau.
Mae Plumb wedi ei gyhuddo o geisio annog dyn arall o'r enw David Nelson i gyflawni llofruddiaeth, ac o annog neu gynorthwyo herwgipio a threisio.
Roedd Mr Plumb wedi cynllwynio gyda Mr Nelson ar-lein ac wedi creu “cynllun manwl” i gyflawni’r troseddau.
Mae'r achos yn parhau.