Newyddion S4C

Yr heddlu'n asesu sylwadau dilornus ymgyrchydd Reform UK

Andrew Parker Reform

Mae Heddlu Essex wedi dweud bod yn llu yn "asesu ar frys" sylwadau dilornus ymgyrchydd Reform UK "er mwyn sefydlu os oes unrhyw droseddau" wedi eu cyflawni.

Roedd newyddiadurwyr Channel 4 wedi recordio Andrew Parker yn dweud y dylai cychod mudwyr gael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant saethu, ac fe wnaeth hefyd ddefnyddio iaith hiliol am y prif weinidog, Rishi Sunak.

Disgrifiodd Islam fel "cwlt ffiaidd".

Dywedodd Mr Sunak ddydd Gwener: “Mae'n rhaid i fy nwy ferch weld a chlywed pobl Reform sy'n ymgyrchu dros Nigel Farage yn fy ngalw i'n effing p***. Mae'n brifo ac mae'n fy ngwneud i'n grac, ac rwy'n meddwl bod ganddo rai cwestiynau i'w hateb.

“Ac nid wyf yn ailadrodd y geiriau hynny yn ysgafn. Rwy’n gwneud hynny’n fwriadol, oherwydd mae hyn yn rhy bwysig i beidio a'i alw allan yn glir am yr hyn ydyw.”

Wrth siarad ar ymweliad ymgyrchu ag ysgol yng Nglannau Tees, fe ychwanegodd: “Fel Prif Weinidog, ond yn bwysicach fel tad i ddwy ferch ifanc, mae’n ddyletswydd arnaf i ddwyn sylw i'r ymddygiad niweidiol ac ymrannol hwn.”

Mewn datganiad dywedodd Andrew Parker ei fod yn ymddiheuro i Mr Farage a'r blaid am ei sylwadau.

“Hoffwn ei gwneud yn glir nad oedd Nigel Farage yn bersonol na’r Blaid Reform yn ymwybodol o fy marn bersonol ar fewnfudo," meddai.

“Nid wyf erioed wedi trafod mewnfudo gyda Nigel Farage na’r Blaid Reform a fy marn bersonol i oedd y sylwadau a gafodd eu recordio.

“Hoffwn felly ymddiheuro’n ddiffuant i Nigel Farage a’r Blaid Reform os yw fy marn bersonol wedi adlewyrchu’n wael arnyn nhw ac wedi dwyn anfri arnyn nhw gan nad dyna oedd fy mwriad.”

Wrth ymateb fe ddywedodd Mr Farage bod rhai sylwadau dadleuol gan ymgyrchwyr Reform yn gyffredin ymysg y cyhoedd.

"Rydym wedi gweld un neu ddau ymgeisydd yn dweud pethau na ddylen nhw fod wedi dweud,"meddai.

"Ac yn rhan fwyaf o'r achosion maen nhw'n siarad fel pobl arferol.

"Mewn rhai achosion mae un neu ddau berson wedi ein siomi ac rydym ni wedi eu rhyddhau nhw o'r blaid."

Ymgeiswyr Clacton

  • Matthew Bensilum - Y Democratiaid Rhyddfrydol            
  • Nigel Farage - Reform UK
  • Craig Jamieson - Climate           
  • Tony Mack - Annibynnol
  • Natasha Osben - Y Blaid Werdd
  • Jovan Owusu-Nepaul - Y Blaid Lafur           
  • Tasos Papanastasiou - Heritage            
  • Andrew Pemberton - UKIP           
  • Giles Watling - Y Blaid Geidwadol

    Llun: Channel 4

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.