Etholiadau Cynulliad Ffrainc: Pam eu bod nhw mor arwyddocaol?
Mae penderfyniad yr Arlywydd Macron i alw etholiadau y Cynulliad Cenedlaethol yn Ffrainc yn cael ei weld gan ei wrthwynebwyr a'i gefnogwyr fel gambl a fyddai'n gallu caniatáu i'r asgell dde eithafol yn y wlad i lywodraethu.
Bydd dwy rownd o etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cynnal yn y wlad ar 30 Mehefin a 7 Gorffennaf, er nad oedd angen i Mr Macron eu galw am dair blynedd arall.
Ond wedi llwyddiant ysgubol yn etholiadau Ewrop i blaid yr asgell dde eithafol, y Rali Genedlaethol (Rassemblement National), yn Etholiadau Ewrop, fe wnaeth yr arlywydd gydnabod nad oedd modd iddo barhau fel nad oedd unrhyw beth wedi digwydd.
Ar ôl methu â sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin 2022, mae pasio cyfreithiau wedi bod yn broblem mawr i Mr Macron, gyda diwygiadau pensiwn a rheolau mewnfudo yn gur pen mawr iddo.
Mae clymblaid Mr Macron o bleidiau Renaissance, Horizons a MoDem, yn wynebu heriau cynyddol, ac yn wynebu cystadleuaeth gan y Rali Genedlaethol a phleidiau ar yr asgell chwith.
Am y tro cyntaf yn Ffrainc, gall plaid y Rali Genedlaethol, sy'n cael ei harwain gan Jordan Bardella, ennill pŵer.
Marine Le Pen sy'n arwain y blaid yn y senedd, ac mae hi eisoes wedi ymgeisio i fod yn arlywydd dair gwaith.
Beth ydy'r farn yn y wasg yn Ffrainc?
Dywedodd golygydd papur newydd Le Monde Jêrôme Fenoglio fod "penderfyniad gwangalon yr arlywydd, ar noson Etholiadau Ewrop, wedi cadarnhau ei fod wedi ei ynysu.
"Mae ei anallu i ddefnyddio ei dair blynedd o'i arlywyddiaeth sydd ar ôl i ail-ddiffinio agenda polisi ac ail-greu mwyafrif, er mwyn mynd i'r afael â gwraidd yr union beth y mae'n honni fod yn brwydro yn ei erbyn, sef cynnydd parhaus y Rali Genedlaethol."
Ychwanegodd papur newydd Le Figaro: "Ers iddo ddiddymu'r Senedd, mae Emmanuel Macron wedi bod yn ceisio cyfiawnhau ei hun ymhob ffordd bosib. Ond pwy sy'n deall ei negeseuon?
"Po fwyaf y mae'n ymyrryd, po fwyaf y mae'n gwneud i'r Ffrancwyr deimlo'n euog, a wedi'r cwbl, y cwbl wnaethon nhw ofyn amdano oedd ychydig o wythnosau o wyliau."
Ychwanegodd papur newydd Libération nad yw'r "asgell dde eithafol erioed wedi bod mor agos at rym wedi penderfyniad Emmanuel Macron i ddiddymu’r Cynulliad ar noson yr etholiadau Ewropeaidd, a gafodd ei hennill i raddau helaeth gan yr RN gyda 31.4% o’r bleidlais."
Arolygon barn
Mae'r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu y gallai'r blaid asgell dde, Rassemblement National, ennill 36% o'r bleidlais.
Mae yna gyfanswm o 577 o seddi yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae angen i blaid sicrhau 289 ohonynt er mwyn cael mwyafrif.
Dim ond 250 o seddi sydd gan glymblaid Macron yn y Cynulliad presennol, gan olygu ei fod yn dibynnu ar gefnogaeth gan bleidiau eraill bob tro yr oedd angen pasio deddf.
Mae gan y Rali Genedlaethol 88 sedd yn y Cynulliad presennol, ond mae arolygon barn yn awgrymu y gallant ennill rhwng 220 a 260 o seddi.
Yn draddodiadol, mae nifer o Ffrancwyr yn defnyddio 'le vote utile' i bleidleisio yn dactegol a chadw'r asgell dde eithafol i ffwrdd o bŵer.
Beth bynnag y canlyniad, mae Mr Macron wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo fel arlywydd.
Byddai llwyddiant i'r Rali Genedlaethol yn gallu arwain at bron i dair blynedd o 'cohabitation', sef pan mae arlywydd un plaid yn bennaeth y wlad, a phlaid arall yn arwain y llywodraeth.
Mae hyn yn golygu y gallai Jordan Bardella, sy'n 28 oed, fod yn Brif Weinidog Ffrainc ymhen ychydig wythnosau.