Newyddion S4C

Rygbi: Angen i Gymru ‘chwarae gyda thempo’ yn erbyn Sbaen

29/06/2024
Rygbi Cymru - Kerin Lake (2024)

Mae angen i dîm rygbi merched Cymru chwarae ‘gyda thempo’ yn erbyn Sbaen wrth iddyn nhw geisio hawlio eu lle yng nghystadleuaeth WXV2 ddydd Sadwrn.

Dyma eiriau’r hyfforddwr Ioan Cunningham, wrth i’w dîm baratoi am eu gêm ail gyfle ym Mharc yr Arfau.

Bydd enillwyr y gêm yn cymhwyso ar gyfer ail haen y gystadleuaeth fyd eang WXV, sef WXV2, fydd yn cael ei chwarae yn Ne Affrica fis Medi a Hydref.

Bydd y tîm aflwyddiannus yn gorfod bodloni gyda lle yn WXV3, cystadleueth fydd yn cael ei chynnal yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae lle yng Nghwpan y Byd yn Lloegr flwyddyn nesaf hefyd yn y fantol i’r enillwyr.

Yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad siomedig i’r Cymry, mae Cunningham yn dweud y bydd y Sbaenwyr, sydd yn 13fed ar restr detholion y byd, yn gweld y gêm fel cyfle i “greu argraff”.

'Her wirioneddol'

"Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud – mae buddugoliaeth yn golygu lle yng Nghwpan y Byd Lloegr 2025 a lle yn WXV2 yn Ne Affrica fis Medi.

“Mae ffocws yr wythnos gyfan wedi bod ar beth sydd angen i ni ei wneud a sut yr ydym am chwarae, a gwneud yn siŵr bod y manylder yn ein gêm yn iawn.

“Rydym angen chwarae gyda thempo yn y gêm bwysig hon, gan wybod y bydd Sbaen yn ei weld fel cyfle i greu argraff.

“Rydym angen adeiladu ar ein buddugoliaeth yng ngêm olaf y Chwe Gwlad ac rydym wedi dewis swmp sylweddol o’r tîm buddugol hwnnw. Mae Sbaen wedi paratoi gyda dwy gêm yn erbyn Canada A ac mi fydden nhw’n cynnig her wirioneddol.”

Y canolwr Hannah Jones fydd capten y tîm, gyda’i phartner Kerin Lake yn ennill ei hanner canfed cap.

Fe enillodd Cymru eu gêm ddiwethaf, gan drechu’r Eidal o 22-20 yn y Chwe Gwlad. Roedd Sbaen hefyd yn fuddugol yn eu hymddangosiad cystadleuol diweddaraf, gan chwalu Sweden 53-0.

Sbaen oedd yn fuddugol, o 29-5, y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd, nôl ym mis Tachwedd 2019.

Bydd y gic gyntaf am 17.35, gyda’r gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Tîm Cymru yn erbyn Sbaen: 

Jenny Hesketh, Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender (is-gapten), Bethan Lewis.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Robyn Wilkins, Courtney Keight.

Llun: Canolwr Cymru Kerin Lake, sydd yn ennill ei 50fed cap (Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.