Arestio dyn ar amheuaeth o achosi anaf difrifol i fachgen drwy yrru'n beryglus
28/06/2024
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn ardal Abertawe.
Cafodd bachgen naw oed ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar Ffordd y Brain, Blaenymaes, ar ddydd Gwener 21 Mehefin.
Mae'r dyn 33 oed sydd wedi ei arestio wedi ei ryddhau dan ymchwiliad yr heddlu medd y llu.