Dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon yn galw am ddiffibrilwyr ym mhob ysgol
Dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon yn galw am ddiffibrilwyr ym mhob ysgol
Mae dyn ifanc a gafodd ataliad ar y galon wedi galw i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr, a hynny yn orfodol, fel yn ysgolion Lloegr.
Yn ôl Steffan Howells, sydd bellach yn lysgennad i elusen Calon Hearts Cymru, gallai fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Yn 2022 ac yntau’n 26 oed cafodd ataliad ar y galon tra’n chwarae rygbi yng Nghaerdydd.
“Ma’ fe’n duedd i feddwl bod o’n digwydd lot yn fwy i bobl hŷn, ond fi’n dyst bod pobl sydd dan 30 oed hefyd yn gallu cael ataliad," meddai.
“Ma’ rhan fwyaf y boblogaeth ifanc mewn ysgolion felly pe bai rywbeth yn digwydd mewn ysgol a bod ddim defib yno, yna bydde ti’n colli bywyd heb isie.
“Dylse ni ddim bod mewn sefyllfa lle ni’n aros i rywbeth fel hyn ddigwydd er mwyn cael neud newid, dylse fe fod ddeddf fod peiriannau fel hyn yn angenrheidiol mewn ysgolion.”
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru gofnod o ba ysgolion sydd â’r dyfeisiau achub bywyd.
O’r rheini sydd â chofnod mae’n ddarlun cymysg - y nifer ar ei uchaf yng Nghaerffili lle mae 97% o ysgolion â diffibrilwyr, ac ar ei isaf yn Sir Gaerfyrddin sydd â diffiblwyr mewn 15% o ysgolion y sir.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod “pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig diffibriliwr” a’i bod yn gweithio i gynyddu’r nifer mewn cymunedau.
‘Edrych i’r dyfodol’
Gall diffirbilwr gynyddu’r siawns o oroesi o hyd at 70% os yw’n cael ei ddefnyddio o fewn pum munud o ataliad ar y galon.
Yn ôl Dr Gethin Ellis sy’n ymgynghorydd cardioleg mae’n “gwneud synnwyr” i gael diffibriliwr mewn llefydd mae pobl yn ymgasglu ynddynt, fel ysgolion.
Dywedodd Dr Gethin Ellis wrth Newyddion S4C: “Dwi’n meddwl fod o’n neud synnwyr i gael diffibriliwr ym mhob man mae pobl yn casglu fel ysgolion.
“Yn anffodus be ‘da chi’n tueddu i ffeindio ydy bod y diffibriliwyr yn cael eu rhoi mewn ysgolion lle ma’ ‘na drasiedi wedi bod.
“Dylsa ni edrych i’r dyfodol a rhoi diffibrilwyr yn ein hysgolion i gyd yng Nghymru.”
Mae rhai ysgolion wedi mynd ati i godi arian i brynu diffibrilwyr.
Er bod gan Ysgol Bro Teifi ddiffibrilwyr trefnwyd taith gerdded yn ddiweddar gan aelodau'r chweched dosbarth i gael ail ddyfais yn adran chwaraeon yr ysgol.
Dywedodd Jano Evans, disgybl Ysgol Bro Teifi: “Ni wedi clywed sawl stori sy’n agos i adre. Ma’ gyda ni un yn y dderbynfa ond o’n i’n gweld e’n rhy bell a bod lot o glybiau’n iwsio’r adran chwaraeon dros y penwythnos ac ar ôl Ysgol a bod isie fe gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio fe.
“Falle dyle fe fod yn rhywbeth sydd yn orfodol yng Nghymru, achos falle dyw lot o bobl ddim yn y sefyllfa i godi’r arian fel i ni’n neud, a ni wedi gweld e’n her i godi’r £1500 sydd eisiau.”
Dywedodd Hanna Evans sydd hefyd yn ddisgybl Ysgol Bro Teifi: “Chi ddim yn gwybod pryd ma’ fe mynd i ddigwydd, pryd ma’ angen un arnoch chi.
"A ’da chi ddim moyn bod yn y sefyllfa na pam ma’ ddim ‘da chi un, felly fi’n credu bydde fe’n bwysig i bob un gael un yn rhywle.
Canran ysgolion Cymru sydd â diffibrilwyr
15% Cyngor Sir Caerfyrddin
39% Cyngor Sir Powys
43% Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
52% Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
61% Cyngor Sir Fynwy
73% Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
87% Cyngor Sir Ddinbych
97% Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Does dim cofnod o ysgolion sydd â diffibrilwyr gan weddill awdurdodau lleol Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi galw am “wneud hi’n orfodol i ysgolion gael diffibriliwr ar bob safle”, fel yn Lloegr.
Dyna hefyd alwad y Ceidwadwyr sydd am weld Llywodraeth Cymru yn “mynd i’r afael a hyn ar frys”.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodaeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i alluogi cymunedau i gael diffibrilwyr sy'n hygyrch i'r cyhoedd, ac mae pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig un."
"Mae rhaglen Achub Bywydau Cymru y GIG yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon, a sefydliadau'r sector cyhoeddus i gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedol.
"Mae’r rhaglen hefyd yn sicrhau bod y dyfeisiau'n cael eu cofrestru fel bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod ble maen nhw."