Ymchwiliad i ymosodiad seiber ar ysgolion uwchradd Môn yn parhau
Bydd "dadansoddiad fforensig" i ymosodiad seiber ar ysgolion uwchradd Môn yn parhau am nifer o wythnosau eto medd Cyngor Môn.
Fe fydd y gwaith yn cynnwys ceisio darganfod maint unrhyw achos o "fynediad diawdurdod at ddata".
Dywedodd datganiad gan y cyngor ddydd Gwener y bydd "gwelliannau’n cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod systemau technoleg gwybodaeth mor gadarn â phosib" yn y dyfodol.
Mae'r cyngor wedi sefydlu Tîm Rheoli Digwyddiad Diogelwch Seiber er mwyn ymateb i’r digwyddiad.
Dywedodd y Cadeirydd, y Prif Weithredwr Annwen Morgan: “Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn galonogol. Fodd bynnag, bydd ymchwiliad fforensig manwl yn parhau er mwyn i ni allu deall yn llawn beth sydd wedi digwydd yma ac, yn bwysicaf oll, er mwyn i ni allu canfod graddfa unrhyw achos o fynediad diawdurdod at ddata.
“Byddwn mewn sefyllfa cyn hir i alluogi ysgolion i gael mynediad at rai o’u systemau TG ond bydd yr aflonyddwch yn parhau. Bydd pob ysgol yn aros ar agor tan ddiwedd y tymor, a hoffwn ddiolch i staff ysgolion am eu cefnogaeth barhaol.”
Bydd Cyngor Môn yn parhau i ddarparu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ac mae'n cydweithredu’n llawn â’u hymchwiliad meddai'r datganiad.