Newyddion S4C

Arweinydd Plaid Cymru yn esbonio yn Gymraeg ar deledu Saesneg pam nad yw'n cefnogi tîm pêl-droed Lloegr

28/06/2024
Rhun ap Iorwerth

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi esbonio pam ei fod yn dewis peidio cefnogi Lloegr yn yr Euros mewn cyfweliad yn y Gymraeg ar raglen deledu Saesneg.

Mewn cyfweliad ar Channel 4 gofynnodd y gohebydd Ciaran Jenkins, sydd o Ferthyr Tudful, wrtho yn Gymraeg pam nad oedd yn cefnogi cymdogion Cymru, Lloegr yn Euro 2024.

Wrth nodi ei resymau dywedodd Rhun ap Iorwerth syml bod Lloegr a Chymru yn elynion i Gymru ym myd chwaraeon, ac nad oedd hynny'n adlewyrchu ar berthynas y ddwy wlad y tu hwnt i'r maes chwarae.

"Nhw ydy'n gelyn pêl-droed mwya’ ni - chwaraeon ydi hwn," meddai.

"Dwi’n gefnogwr Cardiff City ond dydy’r berthynas rhwng Caerdydd ac Abertawe ddim bob amser ar y gorau, ond chwaraeon ydy hynny a dim byd arall.

"Mi ydw i’n gymwys i chwarae i Loegr gan fod fy mam i wedi cael ei geni yn Lerpwl.

"Ond Cymru ydy’n nhîm pêl-droed i a’r tîm ‘da ni’n mwynhau ei guro mwyaf wrth gwrs ydy Lloegr, fel y mae chwaraeon yn gweithio."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod ef "methu mwynhau’r Euros yn iawn oherwydd bod Cymru ddim yno" a'i fod yn cefnogi Ffrainc yn y gystadleuaeth.

Roedd clod i Channel 4 am ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad ar raglen Saesneg ond fe ymatebodd un gwyliwr ar X: "Ffan Caerdydd? Rydw i'n mynd i sbwylio fy mheidlais rwan."

Llun: Channel 4

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.