Gwyliwch: Dolly Parton yn ‘hybu Cymru’ mewn hysbyseb Welcome to Wrexham
Mae'r gantores fyd-enwog Dolly Parton wedi ymddangos mewn fideo newydd i hybu cyfres Welcome to Wrexham.
Daw wedi iddi gyhoeddi ym mis Mai ei bod hi wedi darganfod bod ei chyndeidiau yn dod o ogledd Cymru.
Wrth ymddangos yn fideo Welcome to Wrexham dywedodd “efallai eich bod chi wedi gweld fy nghyhoeddiad diweddar am gael achau Cymreig.
“Wel, roeddwn i wrth fy modd wrth ddysgu hynny, ac roeddwn i hyd yn oed yn hapusach pan ges i anrheg hyfryd gan fwrdd twristiaeth a drama dogfen Cymru,” meddai wrth ddatgelu sgarff Clwb Pêl-droed Wrecsam.
“Fe wnaethon nhw anfon y sgarff hardd hwn ataf a gofyn a fyddwn i'n dweud ychydig eiriau am Gymru.”
Inline Tweet: https://twitter.com/Wrexham_AFC/status/1806313527616974908
Ond yna mae’n darganfod mai hysbyseb ar gyfer Welcome to Wrexham ydyw a’n ffugio anniddigrwydd wrth i gyd-berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam Ryan Reynolds and Rob McElhenney ymddangos ar y sgrin.
“Felly mae bwrdd twristiaeth a dramâu dogfen Cymru yn ffug?” mae hi’n gofyn, cyn gwrthod canu cân thema y rhaglen.
Dywedodd y gantores Jada Star, nith Parton, fod y teulu'n credu y gallai mam Parton fod wedi ei geni yng Nghonwy.
“Mae dod i ddarganfod yr ochr yna o’n teulu yn wirioneddol ryfeddol, yn enwedig gyda’r holl bethau rydyn ni’n eu darganfod am ein cysylltiadau â cherddoriaeth, a sut mae hynny wedi bod gyda ni erioed, mae hynny’n wych,” meddai.