Newyddion S4C

Dadl arlywyddol UDA: Y Democratiaid yn pryderu wedi perfformiad ‘dryslyd’ Joe Biden

Donald Trump a Joe Biden

Mae rhai Democratiaid wedi cwestiynu a ddylai Joe Biden wynebu Donald Trump yn etholiad arlywyddol y wlad ar ôl atebion tawel ac aneglur yn dilyn dadl deledu gyntaf y ras arlywyddol.

Mewn arolwg barn i CNN yn dilyn y ddadl roedd 67% yn dweud fod Trump wedi ei hennill a 33% yn dweud fod Joe Biden wedi mynd â hi.

Dywedodd prif strategydd ymgyrch arlywyddol Barack Obama, David Axelrod, fod yna drafodaethau ynglŷn ag a “fydd Joe Biden yn gallu parhau”.

“Roedd yn ymddangos braidd yn ddryslyd,” meddai. 

“Fe wnaeth o gryfhau wrth i'r ddadl fynd yn ei blaen. Ond erbyn hynny, dwi'n meddwl bod y panig wedi cychwyn.”

Dywedodd CNN bod sawl aelod blaenllaw o’r blaid wedi codi’r un pryderon â nhw yn ddienw.

Yn ôl rhaglen newyddion MSNBC, perfformiad Joe Biden oedd “un o’r gwaethaf erioed” mewn dadl arlywyddol.

Dywedodd Is-lywydd yr Unol Daleithiau Kamala Harris bod yr Arlywydd wedi “dechrau’n araf” ond ei fod wedi “gorffen yn gryf”.

“Roedd yn ddechrau araf. Mae hynny’n amlwg i bawb. Dydw i ddim yn mynd i ddadlau â hynny,” meddai.

‘Gwddf tost’

Roedd yna feirniadaeth hefyd o Donald Trump gyda’r New York Times yn dweud bod ei atebion “yn anghywir, heb gyd-destun neu’n ddigon amwys i fod yn gamarweiniol”.

Ychwanegodd MSNBC ei fod yn “gor-ddweud, yn mwydro a heb gymryd y ddadl o ddifrif".

Dywedodd y Los Angeles Times: “Methodd y ddau ymgeisydd ag ateb y cwestiynau, gan grwydro i gyfeiriadau dryslyd, gan gynnwys yn rhyfedd iawn trafod eu gallu mewn golff.”

Cafodd y ddadl a ddarlledwyd ar CNN ei ffilmio yn Atlanta, Georgia ei chynnal llai na phum mis cyn yr Etholiad Arlywyddol ar 5 Tachwedd.

Dywedodd Joe Biden ar ôl y ddadl ei fod yn credu ei fod wedi “gwneud yn dda” ond bod ganddo wddf tost.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.