Miloedd yn arwyddo deiseb yn erbyn baner y DU ar adeilad yng Nghaerdydd

Mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ychwanegu baner y Deyrnas Unedig ar ochr adeilad yng nghanol Caerdydd.
Erbyn hyn, mae dros 8,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb ddiwrnod wedi iddi gael ei chreu yn sgil cynlluniau i ychwanegu baner enfawr y DU ar draws ochr wyth llawr o adeilad Llywodraeth y DU yng nghanol y ddinas.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan y grŵp gwleidyddol YesCymru gan alw am dro pedol a galw'r cynlluniau yn "weithred wleidyddol amlwg wedi ei ddylunio i gythruddo pobl Cymru".
Mae'r ddeiseb yn galw ar Gyngor Caerdydd i ddat-gymeradwyo'r datblygiad, sydd wedi ei ddisgrifio fel "hysbyseb", yn ôl WalesOnline.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod y penderfyniad i roi sel bendith i'r cynlluniau yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru ac nad oes modd i'r cyngor wrthod cais cynllunio ar sail amhoblogrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod arddangos baner yr Undeb yn arferol ar draws adeiladu tebyg y Llywodraeth ar draws y DU a'r byd a bod baner Cymru'n cael ei chwifio tu fewn i Dŷ William Morgan.
Darllenwch y stori'n llawn yma.