Taith gerdded i ddangos fod gobaith yn y frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau
Taith gerdded i ddangos fod gobaith yn y frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau
"'Dan ni'n barod?"
Dyw hi ddim yn anarferol gweld grwpiau mawr yn paratoi i ddringo mynyddoedd Eryri yn yr haf.
Ond mae 'na rywbeth sy'n gwneud y grŵp yma yn unigryw.
Mae pob un ohonyn nhw wedi brwydro dibyniaeth i gyffuriau ac alcohol.
Gan gynnwys Llion sy'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol.
"Wnes i ddechrau cymryd alcohol a tabledi pryd o'n i'n ddeg oed.
"Wnaeth o progressio ymlaen wedyn i amphetamine ac ecstasy.
"Erbyn o'n i'n 16, o'n i'n injectio heroin, wedyn mewn ac allan o jêl.
"O'n i 'di hitio rock-bottom fi.
"O'n i'n gwybod o'n i either am farw neu o'n i am lladd rhywun.
"So, wnes i fynd i rehab."
Faint o help y'ch chi 'di ffeindio gwneud cysylltiadau fel chi'n gallu gwneud ar ddiwrnod fel heddi?
"O, briliant, achos dw i'n medru bod yn true i fi fy hun a bod yn onest."
Mae Llion yn un o 60 sy'n cymryd rhan yn y daith i gopa Moel Hebog ger Beddgelert.
Rob Havelock sy'n arwain y grŵp i'r copa.
"Trwy fod yn gaeth i gyffuriau, wnes i golli bob dim yn y diwedd.
"Yn slo bach, wnaeth bywyd fi ddisgyn i ddarnau.
"Ges i llond bol, i fod yn onest, a gwneud penderfyniad i wella fy hun."
Mae hi'n flwyddyn a hanner ers i Rob roi'r gorau i gyffuriau ac alcohol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuodd Sober Snowdonia sy'n darparu help.
"Syniad Sober Snowdonia ydy i ddod a pobl efo'r salwch 'ma i fewn i'r mynyddoedd i fi gael rhannu faint o gymorth mae o 'di bod i fi efo pobl eraill.
"Yr unig le o'n i'n fodlon cerdded i o'r blaen oedd tŷ tafarn neu i brynu cyffuriau.
"Rŵan, dw i wrthi yn cerdded y mynyddoedd yma i gyd.
"'Dan ni o different backgrounds ond mae gynnon ni yr un problemau.
"'Dan ni'n gallu dallt ein gilydd, siarad a bod yna efo'n gilydd a enjoio'r diwrnod a gweld y beauty o gwmpas Snowdonia.
"'Sa'm byd gwell."
Ond er gwaethaf llwyddiannau'r grŵp yma, mae'n wahanol ar draws y wlad.
Mae'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn parhau i fod ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf roedd yna 30 marwolaeth ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yma.
Mae hynny'n uwch na'r ffigwr yn Lloegr.
Yn 2022 yn unig, bu farw dros 800 o bobl ar draws Cymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau neu alcohol.
Mae'r gyfradd o farwolaethau wedi gostwng ymhlith dynion Cymru ond mae e'n uwch nag erioed ymhlith menywod.
"Mae 'na lot o stigma yn dod o gwmpas alcohol a cyffuriau ond mae 'na cyn gymaint ohonom ni felly mae isio dod at ein gilydd a fod nhw'n gwybod there is hope ac mae 'na ffordd allan ohono fo.
"'Dyn nhw'm yn gorfod gwneud o ar ben ei hunan."
Mae'r neges yn glir gan y grŵp yma heddiw, felly.
'Sdim ots beth yw uchder eich mynydd personol chi mae hi'n bosib cyrraedd y copa.