Glywsoch chi erioed am hanes arth Brymbo?
27/06/2024
Glywsoch chi erioed am hanes arth Brymbo?
Mae Heddlu'r Gogledd wedi adrodd hanes un o'r digwyddiadau rhyfeddaf i'r llu ymateb iddo.
Yn y 1970au, galwyd swyddogion o Adran Draffig Wrecsam i fferm ger Brymbo lle'r oedd ffermwr wedi darganfod bod ei gi defaid wedi marw, a gweld yr hyn oedd yn ei feddwl oedd anifail tebyg i flaidd yn diflannu i'r coed.
Ar ôl chwilio'r ardal am ychydig, daeth y swyddogion o hyd i arth.
Fe ddechreuodd yr arth ymosod ar eu car patrôl, cyn i berchennog yr anifail ymddangos ymhen hir a hwyr a'i gludo adref.
Mae'n debyg bod yr arth wedi dianc o gwt ci cyfagos lle'r oedd yn cael ei fagu gan y perchennog.
"Cafodd PC 629 Cyril Jones dipyn o waith yn esbonio wrth ei fos sut cafodd ei gar patrôl ei ddifrodi", meddai'r llu.