Newyddion S4C

Dathlu chwarter canrif o'r stadiwm genedlaethol

28/06/2024

Dathlu chwarter canrif o'r stadiwm genedlaethol

Eleni fe fydd stadiwm genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth.

Fe gafodd Stadiwm y Mileniwm, neu Stadiwm Principality'n ddiweddarach, ei hagor ar droead y ganrif yn 1999, a hynny ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Undeb Rygbi Cymru yw perchennog yr ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl. 

Mae gan y stadiwm le ar gyfer 75,154 o bobl.

Fe gostiodd £126 miliwn i’w hadeiladu, ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. 

Fe gafodd y stadiwm ei defnyddio am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.

Cynhaliwyd gemau terfynol Cwpan yr FA yn Stadiwm y Mileniwm rhwng 2001 a 2006, tra'r oedd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cael ei hail-adeiladu. 

Er i gemau pêl-droed Cymru gael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd dros y blynyddoedd diweddar, roedd Stadiwm y Mileniwm yn gartref i bêl-droed Cymru ar un adeg, ac yma y cynhaliwyd gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012.

Y stadwm hefyd oedd lleoliad gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.

Nid rygbi a phêl-droed yw’r unig gampau i gael eu chwarae yn y stadiwm, gan i rai o brif bencampwriaethau moduro’r byd hefyd ymweld â’r lleoliad.

Mae nifer o gerddorion amlwg wedi perfformio mewn cyngherddau yno hefyd, gan gynnwys Madonna, Take That, The Rolling Stones, Paul McCartney, Oasis, Ed Sheran ac yn fwy diweddar Pink a Taylor Swift.

Fe gafodd enw’r stadiwm ei newid o Stadiwm y Mileniwm yn 2016 i adlewyrchu  cytundeb nawdd gyda chymdeithas adeiladu’r Principality, ac fe fydd yr enw mewn lle hyd nes 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.