Dyn o Orseinon a ddioddefodd ymosodiad wedi marw
Mae dyn 64 oed o Sir Abertawe a ddioddefodd ymosodiad fis diwethaf, wedi marw yn yr ysbyty.
Fe ddioddefodd Kelvin Evans o Orseinon anafiadau yn dilyn yr ymosodiad honedig ar ddydd Sul, Mai 26 yng Ngwesty’r Station yng Ngorseinon.
Mae teulu Mr Evans wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud dweud: “Rydym wedi ein tristhau o brofi'r colled drasig a disynnwyr ein mab, brawd, ewythr a ffrind gwych, cariadus a doniol.
“Rydyn ni’n ceisio dod i delerau â’r holl sefyllfa ac yn gofyn i ni gael amser i alaru yn breifat fel teulu.”
Mae dyn 39 oed o Abertawe yn parhau yn y ddalfa wedi'r digwyddiad.
Mae dynes 54 oed, hefyd o Abertawe a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau yn cael eu cynnal.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod: 2400172904.