
Golwg gyntaf y tu fewn i orsaf fysiau newydd Caerydd
Mae'r lluniau cyntaf o du fewn i orsaf fysiau hir-ddisgwyliedig Caerdydd wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn agor yn swyddogol ddydd Sul 30 Mehefin.
Bydd yr orsaf yn cynnwys 14 bae bws, 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfeydd, unedau manwerthu a 318 o fflatiau.
Caeodd yr hen orsaf bws yn 2015 a'r gobaith ar y pryd oedd y byddai un newydd ar agor erbyn 2017.

Yn y pen draw fe wnaeth Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf bws newydd ym mis Tachwedd 2018, gyda dyddiad agor o 2021.
Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru Marie Daly: "Mae yna nifer o bartneriaid wedi bod yn rhan o'r prosiect, o ddylunio'r orsaf iw hadeiladu.
"Byddem ni gyd wedi hoffi bod yma yn gynt, ond ein ffocws ni oedd cyfleuster arbennig, buddsoddiad arbennig ac ni fedrwn ni aros i gael ei agor ddydd Sul."
Ychwaegodd Ms Daly y byddai’n chwarae rhan “hynod bwysig” o ran cael pobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na defnyddio eu ceir.

Bydd dau fusnes wedi eu lleoli o fewn yr unedau masnachol yn yr adeilad, er nad oes dyddiad penodol ar gyfer hyn eto.
Er y bydd yr orsaf yn weithredol erbyn 30 Mehefin, ni fydd yr holl wasanaethau yn rhedeg o'r dyddiad hwn.

Unwaith y bydd yn gweithredu'n llawn, mae disgwyl i'r orsaf gynnig 60 gwasanaeth bob awr, ond ar ddyddiad yr agoriad, y gred yw mai tua 40% o'r capasiti fydd hyn.