Newyddion S4C

Heddlu Bolifia yn arestio arweinydd coup milwrol aflwyddiannus

27/06/2024
bolivia.png

Mae'r heddlu yn Bolifia wedi arestio arweinydd coup milwrol aflwyddiannus, oriau wedi i filwyr ymosod ar y palas arlywyddol ym mhrifddinas y wlad. 

Dywedodd arweinydd milwrol y gwrthryfelwyr, Juan José Zúñiga, ei fod eisiau "ailstrwythuro democratiaeth" ac er ei fod yn parchu awdurdod y Arlywydd Luis Arce am y tro, y byddai yna newid mewn llywodraeth. 

Ychwanegodd fod ei fyddin yn ceisio "sicrhau bod ein carcharwyr gwleidyddol yn rhydd".

Mae bellach wedi cael ei arestio. 

Fe wnaeth yr Arlywydd Arce gondemnio'r ymosodiad, gan alw ar y cyhoedd i "weithredu... o blaid democratiaeth".

"Ni allwn ganiatáu unwaith yn rhagor i ymgais coup gymryd bywydau pobl Bolifia," meddai mewn neges a gafodd ei darlledu i'r wlad o du fewn i'r palas.

Mae Swyddfa'r Erlynydd Cyhoeddus wedi agor ymchwiliad troseddol.

Fe wnaeth Mr Arce hefyd benodi penaethiaid newydd ar gyfer y fyddin, y llynges a'r llu awyr wedi'r ymosodiad.

Mae Bolifia wedi bod yn wynebu protestiadau cynyddol dros y misoedd diwethaf, a hynny yn sgil dirywiad ei heconomi dros y degawdau diwethaf. 

Mae tensiynau wedi cynyddu ar drothwy'r etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf hefyd, gyda'r cyn arlywydd Evo Morales yn bwriadu herio Mr Arce am yr arlywyddiaeth. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.