Newyddion S4C

Disgwyl i law trwm gadw draw wrth i filoedd gyrraedd Gŵyl Glastonbury

glastonbury.png

Mae disgwyl i law trwm gadw draw wrth i filoedd gyrraedd Gŵyl Glastonbury ddydd Iau.

Nid oes disgwyl unrhyw dywydd eithafol, o law trwm i wres eithafol, dros y penwythnos yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Y disgwyl yw y bydd y tywydd yn sych ac mae disgwyl i'r tymheredd ddisgyn ychydig ar draws y penwythnos. 

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Dywydd y gall pobl ddisgwyl amodau i fod "ychydig yn gymylog" gydag "ambell gawod o law" ddydd Iau cyn iddi droi yn sychach gyda digon o ysbeidiau heulog yn y prynhawn.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl i'r tymheredd ddisgyn i 18C ddydd Gwener cyn codi i 19c a 21c ar ddydd Sadwrn a Sul. 

'Dan bwysau'

Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal tra y bydd meddygon iau yn Lloegr yn mynd ar streic, gyda GIG Gwlad yr Haf yn cynghori pobl sut i "gadw'n iach" yn ystod cyfnodau o dywydd poeth er mwyn "lleihau'r pwysau ar iechyd a gofal".

Dywedodd prif swyddog meddygol GIG Gwlad yr Haf, Dr Bernie Marden: "Rydym ni'n gwybod y bydd gwasanaethau o dan bwysau yr wythnos hon."

Ni fydd y prif lwyfannau yn Ffarm Worthy ar agor tan ddydd Gwener, pan y bydd Dua Lipa yn cloi'r noson ar y Llwyfan Pyramid, cyn y bydd Colplay a SZA yn perfformio ar y llwyfan enwog ddydd Sadwrn a Sul. 

Bydd Shania Twain yn perfformio ar brynhawn dydd Sul, tra bydd y seren o’r 1980au, Cyndi Lauper, yn perfformio yn yr ŵyl am y tro cyntaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.