Newyddion S4C

Plannu coed: Diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr yn ‘peri pryder’

Protest ffermwyr

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynnig mwy o arbenigedd ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd i ffermwyr yn ôl adroddiad newydd.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn cynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed.

Ond nid yw cynllun cefnogi ffermwyr ‘Cyswllt Ffermio’ y llywodraeth wedi cynnig digon o arweiniad yn hynny o beth, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Fe arweiniodd y cynllun newydd at brotestiadau ledled Cymru a 12,000 o ymatebion yn gynharach eleni, ac mae wedi ei oedi nes 2026.

Dywedodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig bod y targedau ar gyfer plannu coed yn golygu y bydd bydd angen mwy o gymorth ar ffermwyr o safbwynt rheoli coetiroedd, a bod y diffyg cymorth yn “peri pryder”.

Dylai Cyswllt Ffermio “gynnwys llawer mwy o arbenigedd ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd,” medden nhw.

Roedd y newidiadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn sgil Brexit hefyd yn achosi straen meddyliol i ffermwyr ac roedd angen mwy o gymorth arnyn nhw gydag iechyd meddwl, meddai’r adroddiad.

Roedd angen i gynllun Cyswllt Ffermio “fynd i'r afael â'r materion sy'n achosi'r gorbryder a'r straen mwyaf i ffermwyr,” meddai.

“Mae gan Cyswllt Ffermio rôl bwysig o ran cyfeirio at gymorth iechyd meddwl,” meddai’r pwyllgor.

“O ystyried lefelau uchel o orbryder ynghylch yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, ac ansicrwydd y cyfnod pontio y mae’r diwydiant ynddo, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn cefnogi iechyd meddwl ac yn lleihau’r pwysau yn hytrach nag yn ychwanegu atynt.

“Rhaid i Cyswllt Ffermio nodi a mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi gorbryder a straen i ffermwyr.”

‘Bylchau’

Ym mis Mai cyhoeddodd gweinidog amaeth Llywodraeth Cymru y bydd yn oedi gweithredu’r cynlluniau dadleuol ar gyfer ffermydd wedi protestiadau.

Bydd y cyfnod pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau yn 2026 yn hytrach na mis Ebrill 2025, meddai.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies AS, ei fod yn “adeg hollbwysig i ddyfodol ffermio yng Nghymru”.

Roedd y newidiadau i’r cynllun ffermio yn sgil Brexit wedi bod yn “sylweddol” a Llywodraeth Cymru yn “colli cyfle” drwy beidio â defnyddio ei chynllun Cyswllt Ffermio i roi gwybod i ffermwyr am ei newidiadau, meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru am wneud newidiadau mawr i’r ffordd y mae cymorth ariannol yn cael ei ddarparu ac, wrth ystyried dyfodol gwasanaethau fel Cyswllt Ffermio, mae’n hollbwysig gwrando ar anghenion ffermwyr a sicrhau bod gwasanaethau cymorth a chynghori yn addas ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Yn sgil newidiadau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae pobl ym myd ffermio wedi dweud wrthym fod bylchau yn y cymorth sydd ar gael i helpu ffermwyr i bontio i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

“Ni ellir gorbwysleisio cryfder y teimladau ynghylch y newidiadau hyn. Gwelsom drosom ein hunain niferoedd y ffermwyr sydd wedi bod yn protestio ledled Cymru ac yn y Senedd.

“Clywodd ein hymchwiliad sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ‘colli cyfle’ drwy beidio â helpu Cyswllt Ffermio i gyfleu’r cyfeiriad a’r cyfiawnhad dros ei newidiadau i bolisi amaethyddol.

“Rydym wedi gwrando ar arweinwyr ffermio, a heddiw rydym yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella Cyswllt Ffermio a mynediad at gymorth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.