Newyddion S4C

Taith gerdded i ddangos fod gobaith yn y frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau

Newyddion S4C

Taith gerdded i ddangos fod gobaith yn y frwydr yn erbyn alcohol a chyffuriau

Dydi hi ddim yn anarferol gweld grwpiau mawr yn cerdded yn Eryri yn ystod misoedd yr haf. Ond roedd criw arbennig yn paratoi i gerdded i ben Moel Hebog ddydd Mercher - 60 o bobl sydd wedi brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.

Roedd y daith wedi ei threfnu gan Sober Snowdonia, mudiad gafodd ei sefydlu gan Rob Havelock o Borthmadog. Mae’n flwyddyn a hanner ers i Rob roi’r gorau i gyffuriau ac alcohol. 

"O'n i'n gaeth i gyffuriau a cwrw am dros 20 mlynedd," meddai Rob.

"Dyma fi'n dechrau cerdded yn y mynyddoedd yn Eryri i helpu'n iechyd meddwl mwy na ddim byd, i clirio pen a gwella'r ffordd o'n i'n sbio ar fywyd."

Rhan o bwrpas y daith dydd Mercher oedd i gynnig gobaith i bobl sy'n dal yn gaeth, a hynny ar adeg pan mae'n parhau'n broblem fawr yng Nghymru. Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn parhau i fod ar eu lefel uchaf erioed yma.

Yn ôl yr ystadegau diweddara, roedd yna 30 marwolaeth ym mhob 100,000  o’r boblogaeth yma. Mae hynny’n uwch na’r ffigwr yn Lloegr.

Ond yn ôl criw Sober Snowdonia, sdim ots beth yw uchder eich mynydd personol chi, mae’n bosib cyrraedd y copa...

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.