Newyddion S4C

Cyn-filwr yn marw ar ôl llithro oddi ar fynydd yn Eryri

William Onion

Mae cwest wedi clywed bod cyn-filwr wedi marw ar ôl disgyn oddi ar fynydd yn Eryri wedi iddo ffilmio gyda drôn.

Bu farw William Onion, 33 oed, o Bournemouth am 11.00 ar 11 Tachwedd y llynedd.

Fe wnaeth ddioddef sawl anaf ar ôl cwympo “pellter sylweddol” o lethr ar Grib Goch, yn ôl uwch grwner gogledd orllewin Cymru.

Roedd Mr Onion yn fynyddwr profiadol, ac yng nghwmni pump o’i ffrindiau pan gwympodd oddi ar y mynydd, sydd 923 medr o uchder, ger yr Wyddfa.

Gan ddod i gasgliad o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd y crwner Kate Robertson yn y cwest yng Nghaernarfon fod gan Mr Onion ddrôn yn ei feddiant ar y pryd.

Image
Crib Goch
Crib Goch

Roedd yna broblem gyda’r drôn a wnaeth achosi i’r ddyfais i hedfan i lawr ochr y mynydd. Pan wnaeth Mr Onion Geisio ymestyn i nôl y drôn, fe lithrodd.

Roedd wedi bod ar sawl daith gerdded ar y mynydd o'r blaen ond roedd hon yn “ddamwain drasig”.

Ychwanegodd y crwner: “Mae wedi ei bortreadu i mi fel dyn rhyfeddol. Roedd ganddo ei fywyd cyfan o’i flaen.”

Cafodd Mr Onion ei eni yng Ngogledd Iwerddon ac roedd yn hyfforddwr ffitrwydd. Roedd hefyd mewn perthynas.

'Meddwl y byd ohono'

Roedd Sarah Edwards yn bresennol yn ystod y digwyddiad ar y mynydd.

Dywedodd fod y drôn wedi hedfan i lawr ochr y mynydd.

Yn ei datganiad yn y cwest, dywedodd fod Mr Onion yn sefyll ar ran “hynod serth”. 

Roedd ganddo ffôn symudol mewn un llaw a dyfais i reoli’r drôn yn ei law arall. Fe wnaeth hi ei weld yn cwympo yn ôl a llithro i lawr ochr y mynydd.

Dywedodd Matthew Jones, oedd hefyd yno ar y pryd, fod Mr Onion wedi bwriadu ffilmio’r golygfeydd, ond roedd y drôn wedi methu. Fe wnaeth lithro wrth geisio achub y ddyfais.

Dywedodd Alistair Onion, tad William Onion: “Roedd yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, roedd gyda ffrindiau ac am hynny rydym yn ddiolchgar.

“Bu iddo huno am 11 o’r gloch ar yr unfed diwrnod ar ddeg, yn yr unfed mis ar ddeg, yn filwr i’r carn, yn fab nad oedd modd bod yn fwy balch ohono. 

"Roedd yn rhywun oedd yn hapus, roedd pawb yn ei garu. Pe bai unrhyw un yn cwrdd ag ef, bydden nhw’n meddwl y byd ohono.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.