Newyddion S4C

Hanner pobl ifanc y gymuned LHDT+ 'wedi cael eu bwlio' ym myd addysg

27/06/2024
Banner LHDTC+

Mae bron i hanner y bobl ifanc o’r gymuned LHDT+ yn y DU wedi dweud eu bod wedi cael eu bwlio, neu wedi dioddef gwahaniaethu yn yr ysgol neu'r brifysgol. 

Roedd hanner y rhai oedd yn nodi eu bod wedi eu bwlio hefyd yn dweud nad oeddynt wedi mynd at berson mewn awdurdod yn eu hysgol neu brifysgol er mwyn cofnodi’r achos o fwlio yn eu herbyn. 

Ac o’r rheiny oedd wedi mynd at berson mewn awdurdod, dywedodd 72% ohonynt fod staff wedi ymateb yn wael i’w cwynion – gyda rhai athrawon neu aelodau staff yn eu hanwybyddu.

Yn ôl un elusen er lles plant, Theirworld – a gomisiynodd y gwaith ymchwil – mae’r ffigyrau yn dangos fod yna beth ffordd i fynd eto gan fod pobl ifanc yn parhau i wynebu rhagfarn mewn amgylchedd “ble y dylen nhw deimlo’n ddiogel.”

Dywedodd llywydd yr elusen, Justin van Fleet ei fod yn “annerbyniol” fod pobl ifanc y gymuned LHDT+ yn dal i wynebu camdriniaeth. 

Cafodd 545 o bobl rhwng 16-24 oed eu holi ledled y DU gan YouGov ym mis Mehefin. Roedd 337 ohonynt yn dal yn y system addysg. 

Dywedodd 47% ohonynt eu bod wedi cael eu bwlio a’u trin yn wahanol ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. 

Roedd y mwyafrif oedd wedi cael eu bwlio wedi dweud mai ar lafar oedd sut yr oedden nhw wedi cael eu cam-drin. 

Dywedodd 53% o bobl ifanc eu bod wedi cael eu haflonyddu, tra oedd 31% wedi wynebu camdriniaeth ar-lein. 

Dywedodd 24% o bobl ifanc oedd yn rhan o'r arolwg eu bod wedi cael eu bygwth, ac roedd 16% wedi dioddef trais corfforol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.