Gwrthdrawiad difrifol rhwng lori a char oedd yn tynnu carafán ar yr A55
Bu rhan o ffordd yr A55 ar gau am gyfnod ddydd Mercher wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng car oedd yn tynnu carafán a cherbyd nwyddau trwm ar yr A55.
Digwyddodd y ddamwain ar gylchfan ger pentref Llanfairfechan rhwng dau gerbyd oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin.
Cafodd yr heddlu, ambiwlans, a'r gwasanaeth tân eu galw i'r ddamwain, ond hyd yma dyw'r heddlu ddim wedi dweud a oes unrhyw un wedi eu hanafu. Roedd yna ddifrod difrifol i'r ddau gerbyd.
Bu tagfeydd hir ar y ffordd i'r gorllewin am rai oriau, ond bellach mae'r heddlu'n dweud fod y ffordd wedi ail-agor.
Inline Tweet: https://twitter.com/aaranlennox/status/1805976398340767987
Llun: Bryn Volts/Facebook