Lansio prosiect ‘cyntaf o’i fath yng Nghymru’ i fynd i’r afael ag algâu gwyrddlas
Mae elusen wedi lansio'r prosiect “cyntaf o’i fath yng Nghymru” sydd â’r bwriad o fynd i’r afael ag algâu gwyrddlas mewn llyn ar Ynys Môn.
Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru wedi adeiladu gwlypdir sy’n arnofio, sef rhafft gyda phlanhigion, ar gyfer Llyn Maelog yn Rhosneigr.
Cafodd y gwlypdir ei lansio ddydd Mercher gyda chefnogaeth disgyblion Ysgol Gynradd Rhosneigr ac aelodau o’r gymuned.
Bwriad y prosiect yw lleihau maint yr algâu gwyrddlas, sef math o facteria sy’n bresennol mewn llynnoedd ac afonydd.
Mae’r bacteria yn ffynnu mewn dŵr cynnes sydd yn llawn maetholion - ac os oes gormodedd o faetholion, gall algâu niweidiol ffurfio.
Daw’r prosiect yn sgil pryderon trigolion am effaith yr algâu hyn ar iechyd pobl ac anifeiliaid yr ardal.
Bu farw dau gi Dani Robertson-Phillips, Bucky a Luna, yn 2020 ar ôl nofio yn Llyn Maelog.
Mae’n debygol eu bod wedi cael eu gwenwyno gan yr algâu gwyrddlas.
‘Galluogi pobl i fwynhau natur’
Mae galluogi trigolion Ynys Môn i fwynhau byd natur mewn ffordd ddiogel yn flaenoriaeth i'r elusen, yn ôl Poppy Backshall, arweinydd cymunedol y prosiect.
“Mae’n ymwneud â galluogi pobl i fwynhau’r natur sydd ar eu carreg drws; ni ddylen nhw orfod meddwl os yw'n ddiogel i fod ym myd natur ai peidio,” meddai.
Er mwyn ceisio cyrraedd y nod hwnnw, mae Ms Backshall - ynghŷd â'r gwyddonydd Dr Anthony Smith - wedi lansio'r cynllun,sy'n seiliedig ar un tebyg yn Massachusetts, yr Unol Daleithiau.
“Y syniad ydy bod y planhigion yn y rhafft yn tyfu i fyny ac yn creu cynefin uwchben y dŵr, ac yna bod y system wreiddiau yn creu cynefin o dan y dŵr ar gyfer pethau fel pysgod a zooplankton, sy’n licio bwyta’r algâu gwyrddlas,” meddai.
“‘Da ni ddim yn gwybod os fydd y gwlypdir yn gweithio yn Llyn Maelog, ond be ‘da ni’n obeithio ‘da ni’n mynd i gael trwy wneud hyn ydy data am faint o faetholion mae’r planhigion wedi eu hamsugno o’r dŵr.”
Os yw’r planhigion yn llwyddo i dynnu’r maetholion o’r dŵr, efallai y bydd modd rhoi gwlypdiroedd o’r fath mewn lleoliadau eraill fel afonydd.
Ond mae lleihau’r nifer o faetholion sy’n cyrraedd y llyn yn parhau i fod yn ddull hanfodol o atal algâu niweidiol rhag datblygu, meddai Ms Backshall.
“Yr hyn ‘da ni’n meddwl sy’n achosi algâu gwyrddlas yw cynnydd mewn maetholion yn y dŵr,” meddai.
“Ac mae’r cynnydd yma’n gallu cael ei achosi gan unrhyw beth o gynnydd mewn gollyngiadau carthion o’r afonydd sy’n dod i mewn ac allan o’r llyn, i lygredd amaethyddol. Gallai fod oherwydd bod y dŵr yn cynhesu gyda newid hinsawdd hefyd.”
Mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru eisoes yn cydweithio â ffermwyr i gadw eu gwartheg allan o’r afonydd, yn ogystal â pharhau i ymgyrchu am faint o garthion sy’n cael eu gollwng i mewn i'r afonydd.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Ynys Môn, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ogystal â Phartneriaethau Natur Leol Cymru.
Mae disgwyl i brosiect tebyg gael ei gynnal yn Llyn Coron, Ynys Môn ym mis Gorffennaf.
Llun: Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru