Dartiau: Gerwyn Price allan o dîm Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
Ni fydd Gerwyn Price yn chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd yn yr Almaen.
Cyhoeddodd y Professional Darts Coropration (PDC) fore ddydd Mercher bod chwaraewr rhif pedwar y byd yn tynnu allan o'r gystadleuaeth sydd yn dechrau ddydd Iau o achos "problemau iechyd."
Bydd Jim Williams o Lanandras y cymryd ei le ac yn bartner i Jonny Clayton yn Frankfurt.
Dywedodd Price ei fod yn siomedig i fethu'r gystadleuaeth.
"Dwi mor siomedig fy mod i'n colli Cwpan y Byd, dwi bob tro yn caru cynrychioli Cymru.
"Dwi'n dymuno pob lwc i Jonny a Jim Williams dros y penwythnos a gobeithio eu bod nhw'n dychwelyd gyda'r tlws unwaith eto."
Mae colled Gerwyn Price yn ergyd i Gymru, a wnaeth ennill y gystadleuaeth y llynedd ac yn 2020.
Er i'r gystadleuaeth ddechrau ddydd Iau bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn yr ail rownd ddydd Sadwrn.
Bydd pedwar tîm uchaf ar restr detholion y byd yn chwarae wedi i'r gemau grŵp cael eu cwblhau ar ddydd Iau a ddydd Gwener.
Llun: PDC