Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanilltud Fawr

26/06/2024
Heol Pentre'r Cwrt

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 19:30 nos Fawrth i ddigwyddiad ar y B4265 ger cylchfan Heol Pentre'r Cwrt.

Dywedodd yr heddlu bod teulu'r dyn wedi cael gwybod a'u bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad. 

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.