
Julian Assange yn cyrraedd Awstralia
Mae sylfaenydd gwefan Wikileaks, Julian Assange wedi cyrraedd ei famwlad, a hynny ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o ysbïo a chael ei ryddhau o'r carchar.
Ymddangosodd Assange, 52, mewn llys ar Saipan yn Ynysoedd Gogledd Mariana - sef tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn y Môr Tawel - ddydd Mercher.
Roedd wedi gadael y DU ddydd Llun ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth o garchar Belmarsh yn Llundain ble'r oedd wedi bod am bum mlynedd.
Dywedodd Assange wrth y llys ei fod wedi torri cyfraith yr Unol Daleithiau trwy gael gafael a datgelu gwybodaeth am system amddiffyn genedlaethol yr UDA.
Fe gafodd y dogfennau oedd yn ymwneud â rhyfel Afghanistan eu cyhoeddi yn 2010.

Roedd y dogfennau rheiny yn cynnwys cofnodion cudd oedd yn nodi fod lluoedd arfog yr UDA wedi lladd cannoedd o ddinasyddion yno.
Roedd papurau eraill o ryfel Irac hefyd yn datgelu fod 66,000 o ddinasyddion wedi cael eu lladd – ffigwr oedd llawer uwch na’r hyn oedd eisoes wedi’i gofnodi.
Mae Llywodraeth yr UDA wedi dweud o hyd bod cyhoeddi’r dogfennau wedi peryglu bywydau pobl.
Ond dywedodd y sylfaenydd Wikileaks ei fod yn credu bod y Ddeddf Ysbïo yn torri rhyddid i lefaru.
Dedfrydodd y barnwr Assange i amser a oedd eisoes wedi'i wneud yng ngharchar Belmarsh a dywedodd wrtho y byddai'n gadael y llys yn ddyn rhydd.
Mae hyn yn golygu bod cais yr Unol Daleithiau i estraddodi Assange yn sgil cyhuddiadau o ysbïo wedi’i ollwng. Mae bellach wedi cyrraedd ei famwlad, Awstralia ble roedd ei wraig Stella a’u dau blentyn, Gabriel a Max yn aros amdano.
Mewn datganiad ar X, dywedodd Mrs Assange: "Mae Julian yn cerdded allan o lys ffederal Saipan yn ddyn rhydd. Allai ddim stopio crio."
Llun: Wochit