Anghydfod Amgueddfa Cymru wedi costio tri chwarter miliwn i'r cyhoedd
Mae problemau ar frig Amgueddfa Cymru wedi datgelu 'gwendid' yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyrff cyhoeddus, meddai un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae hynny wedi costio dros £750,000 i'r trethdalwyr mewn taliadau i unigolion a chostau cyfreithiol.
Bu anghydfod rhwng dau uwch-swyddog yn yr amgueddfa - y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol.
Mae'r cyfan yn fater "hynod bryderus" i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru eu bod yn croesawu cyhoeddiad y pwyllgor ac yn ymrwymo i weithredu ei hargymhellion.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu hystyried.
Ymchwiliodd y pwyllgor i’r problemau fel rhan o’i waith craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021/22.
Bydd deiseb sy’n galw am fwy o gyllid ar gyfer sefydliadau treftadaeth a hanes gan gynnwys Amgueddfa Cymru, a gafodd dros 12,000 o lofnodion, yn cael ei thrafod yn y Senedd ddydd Mercher.
'Methiant'
Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth am fethiannau o fewn prosesau mewnol y sefydliad.
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y pwyllgor bod angen mesurau pellach i atal hyn rhag digwydd eto.
“Mae’r Pwyllgor yn poeni’n fawr iawn am y prosesau a gafodd eu defnyddio yn ystod yr anghydfod rhwng y cyn-Lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yn enwedig y rhyngweithio rhwng Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.
"Mae’n amlwg bod angen mesurau pellach i atal unrhyw faterion o’r fath rhag digwydd eto mewn unrhyw gorff cyhoeddus.
“Roedd y prosesau a oedd ar waith ar y pryd yn gwbl annigonol a dylai’r mater fod wedi cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl, gan osgoi costau sylweddol diangen.
"Mae’r methiant hwn yn fwy amlwg byth heddiw, o ystyried y problemau ariannol difrifol sy’n wynebu Amgueddfa Cymru.”
Heriau yn y dyfodol
Ychwanegodd yr AS bod yr heriau sy'n wynebu Amgueddfa Cymru yn destun pryder.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth Vaughan Gething amddiffyn toriadau i gyllideb yr amgueddfa ar ôl pryderon am ddyfodol ei phrif safle yng Nghaerdydd.
“Mae’n destun pryder clywed am yr heriau sy’n wynebu Amgueddfa Cymru o ran ymdrin â phwysau cyllidebol, sy’n debygol o arwain at golli llawer o swyddi yn y sefydliad, yn ogystal â risg i’n casgliadau cenedlaethol a’n safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol," meddai Mark Isherwood AS.
“Wrth graffu yn y dyfodol, bydd y pwyllgor eisiau gwybod sut mae Amgueddfa Cymru yn ymateb i’r pwysau hyn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddiogelu’r safleoedd a’r casgliadau hanfodol bwysig hyn.”
Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru bod y 'blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol'.
"Rydyn ni wedi dysgu llawer. Yn dilyn yr Adolygiad Wedi’i Deilwra a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023, mae Amgueddfa Cymru eisoes wedi cymryd camau i wella a chryfhau ein llywodraethiant. Rydyn ni’n hyderus bod y camau hyn yn golygu na fyddwn yn wynebu heriau o’r fath yn y dyfodol.
"O dan arweiniad ein Cadeirydd, Is-gadeirydd a Phrif Weithredwr newydd, yn ogystal â’n Hymddiriedolwyr, sy’n cynnwys sawl aelod newydd, rydyn ni’n symud ymlaen ac yn parhau i ddarparu profiadau ysbrydoledig, cynhwysol a thrawiadol ar draws ein hamgueddfeydd ar gyfer pobl Cymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn edrych ar yr hyn mae'r adroddiad wedi darganfod yn 'ofalus'
"Fe wnaeth y setliad dan sylw sicrhau canlyniad rhesymol cyn gynted â phosibl ac osgoi'r angen am anghydfod hir a fyddai'n debygol o fod wedi arwain at fwy o gost i'r pwrs cyhoeddus. Mae gwersi, fodd bynnag, wedi eu dysgu o'r sefyllfa yn Amgueddfa Cymru."