Newyddion S4C

Cefnogwr Cymru yn codi miloedd i gefnogwr Almaeneg oedd yn crio

ITV Cymru 02/07/2021
Almaen
Almaen

Mae cefnogwr pêl-droed o Gymru wedi codi miloedd o bunnoedd i gefnogwr ifanc o’r Almaen, wedi iddi gael ei throlio ar-lein yn dilyn buddugoliaeth Lloegr dros yr Almaen yn Wembley.

Roedd y ferch yn destun sylwadau cas ar-lein ar ôl iddi gael ei dangos yn crio ar y teledu ac ar sgrîn fawr y stadiwm.

Ers lansio ymgyrch ar-lein i ddangos “nad yw pawb o’r DU yn erchyll”, mae Joel Hughes wedi codi dros £14,000 hyd yma, ar ôl gosod targed o £500 i ddechrau.

Mae hefyd yn ceisio dod o hyd i deulu’r ferch er mwyn iddo allu trosglwyddo’r arian iddyn nhw.

Dywedodd Mr Hughes fod cam-drin geiriol y ferch yn "eithaf erchyll - a dweud y lleia’".

Ychwanegodd: "Galla i ddim goddef gweld y math hwnnw o fwlio ar-lein.

"Felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n ceisio gwneud rhywbeth. Peth bach. Nid rhywbeth fyddai'n newid y byd, neu'n newid meddyliau'r rhai a ysgrifennodd bethau cas am y ferch fach. Ond rhywbeth serch hynny.

"Ac os yw'n golygu y gallwn roi gwên ar wyneb y ferch honno, yna mae'r gwaith wedi'i wneud".

Mae Mr Hughes yn ceisio’n daer i ddod o hyd i’r ferch er mwyn iddo allu cyflwyno’r arian iddi. 

"Mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol” meddai. "Mae'n ymddangos bod llawer o bobl yn deall bod hyn llawer mwy na merch yn crio.

"Mae hyn yn ymwneud ag empathi a sefyll yn erbyn agweddau negatif sydd mas yna.

“Mae'r cyfan wedi bod yn gadarnhaol iawn a bu llawer o ddiddordeb, ond os na fyddwn ni'n dod o hyd i'r rhieni, neu os nad ydyn nhw am ddod ymlaen, byddwn ni'n rhoi'r arian i achos da sy'n cyd-fynd ag ysbryd yr ymgyrch".

Llun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.