
Honiadau betio: Y Ceidwadwyr ‘ddim yn cefnogi’ Craig Williams fel ymgeisydd
Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud nad ydyn nhw bellach yn cefnogi Craig Williams fel ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.
Daw wedi iddo gael ei gyhuddo o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Mae ymgeisydd arall - Laura Saunders, ymgeisydd y blaid yn Bristol North West - hefyd wedi colli cefnogaeth y blaid.
Fe fydd enw'r ddau ymgeisydd ar y papur pleidleisio o hyd, gydag enwebiadau wedi cau ers ddechrau'r mis.
Daw’r cyhoeddiad wedi i'r ddau gael gwybod eu bod nhw dan ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo am osod bet ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.
Fe wnaeth llefarydd ar ran y blaid y cyhoeddiad ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: “O ganlyniad i ymholiadau mewnol, rydym wedi dod i’r casgliad na allwn bellach gefnogi Craig Williams na Laura Saunders fel Ymgeiswyr Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod.
“Rydym wedi gwirio gyda’r Comisiwn Gamblo nad yw’r penderfyniad hwn yn peryglu’r ymchwiliad y maent yn ei gynnal, sy’n gwbl briodol, annibynnol ac yn mynd yn ei flaen."
Mae Craig Williams wedi cyhoeddi datganiad ar X, Twitter gynt, yn dweud ei fod wedi "gwneud camgymeriad nid cyflawni trosedd" a dweud ei fod yn "bwriadu clirio ei enw".
Inline Tweet: https://twitter.com/craig4monty/status/1805605565688627666
Ymateb
Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer y dylai hyn fod wedi digwydd "wythnosau yn ôl".
Dywedodd ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden bod "pobol ar draws Maldwyn a Glyndŵr yn haeddu Aelod Seneddol sy’n eu rhoi nhw’n gyntaf. Ni fydd llywodraeth Lafur yn gamblo gyda’n dyfodol."
"Rwy'n rhan o Blaid Lafur sydd wedi newid ac sydd unwaith eto yng ngwasanaeth ein gwlad. Ond dim ond trwy bleidleisio Llafur ar 4 Gorffennaf y gall y newid hwnnw ddigwydd."
Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds AS: “Mae wedi cymryd wythnosau i’r Ceidwadwyr wneud y peth iawn, fel sydd wedi dod yn arferol i’w llywodraeth anhrefnus a gwarthus.
"O ystyried bod y sedd wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol yn hanesyddol, dylai trigolion bellach gefnogi eu hymgeisydd gwych Glyn Preston sydd eisoes yn gynghorydd gweithgar yn lleol."

Etholaeth Maldwyn a Glyndŵr yw un o obeithion gorau y Ceidwadwyr o gadw sedd yng Nghymru, yn ôl yr arolygon barn diweddaraf.
Roedd Craig Williams eisoes wedi dweud ei fod yn cydnabod ei fod wedi gwneud " camgymeriad difrifol heb amheuaeth ac rwyf yn ymddiheuro".
“Ni fydd modd i mi ddweud mwy na fy natganiad gan ei fod yn broses annibynnol. Mae’r Comisiwn Gamblo yn edrych ar hyn.”
Dywedodd Mr Williams pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg: "Fe wnes i osod bet ar yr Etholiad Cyffredinol rhai wythnosau yn ôl. O ganlyniad, mae rhai ymholiadau'n cael eu cynnal, a fe fydda i'n cydweithredu â rheiny. Dwi ddim eisiau i hyn dynnu sylw o'r ymgyrch."
Tra'n Aelod Seneddol hen etholaeth Trefaldwyn cyn galw'r etholiad, roedd Mr Williams yn aelod allweddol o dîm y Prif Weinidog. Roedd yn gweithredu fel cyswllt rhwng Mr Sunak ac Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Yr ymchwiliad
Mae’r Comisiwn Gamblo bellach wedi trosglwyddo gwybodaeth i Heddlu'r Met yn honni bod pum person arall wedi gosod betiau yn ymwneud ag amseriad yr Etholiad Cyffredinol.
Yn y cyfamser mae Heddlu y Met wedi gwadu rhoi gwybod i'r wasg am yr ymchwiliadau i'r darpar ASau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Met: “Mae’r honiadau bod y Met wedi gollwng gwybodaeth i'r wasg yn anghywir.
"Rydym yn parhau i gysylltu â’r Comisiwn Gamblo ac yn asesu’r wybodaeth y maent wedi’i darparu.”