
Cymraes o'r Barri yn ennill cystadleuaeth bwyta danadl poethion y byd
Mae menyw o’r Barri wedi cael ei choroni’n enillydd cystadleuaeth i fwyta'r nifer mwyaf o ddanadl poethion – a hynny am yr ail dro yn olynol.
Bethan Hodges oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y menywod ym Mhencampwriaeth Bwyta Danadl Poethion y Byd eleni, a hithau wedi bwyta 64 troedfedd o’r dail a elwir yn dînad neu nettles yn Saesneg o fewn y terfyn amser.
Cafodd ei choroni yn bencampwr am y tro gyntaf y llynedd.
Dywedodd y Gymraes nad oedd hi’n disgwyl ennill y gystadleuaeth eleni “o gwbl,” gan ddweud fod y dail yn sychach nag yr oeddwn nhw y tro diwethaf iddi gystadlu.

Mae Pencampwriaeth Bwyta Danadl Poethion y Byd yn cael ei gynnal ar fferm seidr ym mhentref Wayton yn Dorset.
Nod y gystadleuaeth yw bwyta’r nifer fwyaf o ddail poethion o fewn 30 munud. Cafodd ei gynnal yn wreiddiol fel rhan o ŵyl seidr fel ffordd o godi arian.
Roedd 1,000 o bobl yn bresennol i wylio'r digwyddiad ddydd Sadwrn.
Yn wreiddiol o Seland Newydd, Tom Wheeler, sydd bellach yn byw yn Llundain, oedd enillydd cystadleuaeth y dynion wedi iddo fwyta 116 troedfedd o ddail poethion - gan osod record y byd newydd.
Lluniau: Wochit