Sylfaenydd Wikileaks yn gadael y carchar ar ôl dod i gytundeb gyda'r UDA
Mae sylfaenydd gwefan Wikileaks, Julian Assange wedi gadael y DU am y tro cyntaf ers pum mlynedd wedi iddo ddod i gytundeb gydag awdurdodau'r Unol Daleithiau.
Mae'r cytundeb yn golygu y bydd yn pledio’n euog i un cyhuddiad troseddol yn ei erbyn ac y bydd yn cael ei rhyddhau o'r carchar.
Cafodd Assange, 52, ei gyhuddo o gynllwynio i gael gafael a datgelu gwybodaeth am system amddiffyn genedlaethol yr UDA.
Fe gafodd y dogfennau oedd yn ymwneud a rhyfel Afghanistan eu cyhoeddi yn 2010.
Roedd y dogfennau rheiny yn cynnwys cofnodion cudd oedd yn nodi fod lluoedd arfog yr UDA wedi lladd cannoedd o ddinasyddion yno.
Roedd papurau eraill o ryfel Irac hefyd yn datgelu fod 66,000 o ddinasyddion wedi cael eu lladd yno – ffigwr oedd llawer uwch na’r hyn oedd eisoes wedi’i gofnodi.
Mae llywodraeth yr UDA wedi dweud o hyd bod cyhoeddi’r dogfennau wedi peryglu bywydau pobl.
Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Wikileaks fideo o Assange ym maes awyr Stanstead yn Llundain ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r fideo yn ei ddangos yn camu mewn i awyren sydd yn ei gludo o'r DU.
Inline Tweet: https://twitter.com/wikileaks/status/1805391265489731716
Yn wreiddiol o Awstralia, mae Assange wedi treulio’r pum mlynedd yng ngharchar Belmarsh yn Llundain. Ers bod yno mae o wedi bod yn brwydro yn erbyn cael ei anfon i’r UDA.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Americanaidd CBS, ni fydd Assange yn gorfod treulio cyfnod pellach yn y ddalfa yn yr UDA.
Mae disgwyl iddo ddychwelyd i Awstralia, yn ôl llythyr gan adran gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Yn ôl dogfennau’r llys, mae Assange wedi cytuno i bledio’n euog i un cyhuddiad troseddol yn ei erbyn yn unig er mwyn sicrhau ei ryddid o’r carchar.
Mi fydd yn ymddangos o flaen llys ar Ynysoedd Gogledd Mariana – sef tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn y Môr Tawel – fore Mercher.
Mae Prif Weinidog Awstralia, Anthony Albanese wedi dweud ei fod yn awyddus i Assange gael dychwelyd adref cyn gynted â phosib.
Llun: Wochit