Carcharu dyn o Faesteg am 18 mlynedd am dreisio
25/06/2024
Mae dyn o sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar am droseddau gan gynnwys treisio.
Fe gafodd Nathan Turner, 34 oed o Faesteg, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener am droseddau oedd yn hefyd cynnwys gwir niwed corfforol.
Dywedodd y Cwnstabl Rebecca Gordan o lu Heddlu De Cymru ei bod am “ganmol dewrder anhygoel y dioddefwr” am gysylltu â’r heddlu ynglŷn â’r ymosodiad.
Bydd yn rhaid i Mr Turner dalu £270 o iawndal i’r dioddefwr wedi iddo ddinistrio ei ffôn symudol.
Mae ganddo orchymyn am gyfnod amhenodol yn ei erbyn sydd yn golygu nad oes ganddo hawl i gysylltu â’r unigolyn.