‘Byddai Cymru annibynnol yn gallu fforddio gorsaf niwclear newydd’, medd Rhun ap Iorwerth

‘Byddai Cymru annibynnol yn gallu fforddio gorsaf niwclear newydd’, medd Rhun ap Iorwerth
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud y byddai Cymru’n gallu fforddio gorsaf niwclear newydd pe bai’n wlad annibynnol.
Mewn cyfweliad ar y rhaglen wleidyddol Y Byd yn ei Le, fe wnaeth o hefyd atgyfnerthu polisi’r blaid o beidio â chredu mewn datblygu safleoedd niwclear newydd.
Fodd bynnag, dywedodd y byddai’n fodlon i adeiladu ar hen safleoedd fel Wylfa a Thrawsfynydd, sydd eisoes yn bodoli.
Yn ogystal, dywedodd y byddai llywodraeth annibynnol Gymreig yn golygu y byddai modd “rhoi trefn” ar faterion mewnol fel ynni.
Pan ofynnwyd i Rhun ap Iorwerth os byddai Cymru annibynnol yn gallu fforddio gorsaf niwclear newydd, dywedodd: “Dwi wedi trafod hyn, digwydd bod, efo ambell gwmni.”
“Does yna ddim problem efo gwledydd llai yn datblygu gorsafoedd niwclear.”
Fe wnaeth o ychwanegu: “Y ffordd mae hyn yn cael ei lunio - y cytundebau o ran dadgomisiynu ac ati - sydd wrth wraidd hyn.
“Does yna ddim problem o gwbl yng ngolau’r cwmnïau eu hunain gael gwlad fach annibynnol yn ymwneud â’r sector yma.”
'Cyfrifoldeb Cymru annibynnol yn y pen draw'
Yn 2018, pan oedd Adam Price yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arwain Plaid Cymru, fe wnaeth sôn am oblygiadau posib dadgomisiynu gorsaf niwclear Wylfa.
Dywedodd: “Byddai unrhyw gost nad yw wedi cael ei gyllido, yn syrthio ar ysgwyddau’r wladwriaeth Gymreig, oni bai fod cytundeb wedi ei wneud rhwng perchnogion y pwerdy niwclear i ariannu unrhyw gostau ychwanegol.
“Ond wedi dweud hynny, byddai unrhyw addewid masnachol yn gyfrifoldeb Cymru annibynnol yn y pen draw.”
Roedd safbwynt Mr Price yn adleisio canfyddiadau papur opsiynau Polisi Egni 2013, oedd wedi cael ei gomisiynu gan Blaid Cymru. Roedd y ddogfen yn dweud: “Byddai’n risg enfawr i unrhyw lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol.”
“Gallai dyledion posibl neu ganfyddedig y prosiect hwn yn unig danseilio sefyllfa ariannol unrhyw lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol.
“Petai’n cael ei adeiladu, byddai’n debygol o fod yn ffactor negyddol o bwys wrth drafod annibyniaeth, am yr union reswm y byddai’n arwain at godi’r cwestiwn a fyddai llywodraeth Cymru annibynnol yn gallu ysgwyddo’r risgiau hynny.
“Fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd felly, mae modd cefnogi Wylfa B neu annibyniaeth i Gymru. Mae’n anodd i weld sut mae’n bosibl cefnogi’r ddau.”
'Gosod yn glir'
Mewn ymateb i’r pwyntiau hyn, dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth Y Byd yn ei Le: “Mae cytundebu mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad yn bwysig.”
“Mae’n drafodaeth efo solar ar hyn o bryd, beth sy’n digwydd ymhen 60 mlynedd pan mae paneli solar yn dod i ben?
“Yr ateb ydy bod eisiau sicrhau bod cytundebau yn gosod yn glir cyfrifoldeb pwy ydy o.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Beth ydy Cymru annibynnol ydy gwlad normal.
“Mi allwn i sôn am hynny yng nghyd-destun gymaint o bynciau eraill: mewn ynni, mewn trethiant, ym mhopeth arall.
“Mae gwledydd bach fel Cymru, llai na Chymru hyd yn oed, yn rhoi trefn ar eu materion mewnol. Dyna’n union fyddai’n digwydd efo ynni a phopeth arall mewn Cymru annibynnol.”
'Budd economaidd'
Er nad oes cyfeiriad uniongyrchol at Wylfa ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth bwysleisio bod “yna gyfeiriad at niwclear.”
“Mae ein polisi ni’n cael ei adlewyrchu yn y maniffesto, sef nad ydym ni’n credu mewn datblygu safleoedd newydd - lle mae gennych chi Drawsfynydd a Wylfa, ar hyn o bryd.
“Ry’n ni’n gwybod bod yna gynlluniau oedd ar y gweill sydd wedi cael eu taro’n ôl, wrth gwrs, gan y Ceidwadwyr. Felly, ry’n ni’n dweud ‘dim safleoedd newydd.’
“Mae hynny’n golygu wrth gwrs, wrth ddiffiniad, bod y safleoedd presennol yn rhai ry’n ni’n gweld bod yna bosibilrwydd i gael budd economaidd allan ohono fo.”
Mae maniffesto Llafur Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn dweud “gyda dwy lywodraeth Lafur, byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd am niwclear newydd yn Wylfa.”
Yn ôl maniffesto’r Ceidwadwyr Prydeinig, byddan nhw’n “darparu trydedd orsaf bŵer niwclear mawr y DU yn Wylfa a chefnogi potensial Cymru i gynnal adweithyddion modiwlar bach”.