Gwahardd parcio ‘anystyriol’ wrth Lyn Tegid
Gwahardd parcio ‘anystyriol’ wrth Lyn Tegid
Mae cynghorwyr wedi caniatáu gwaharddiad ar barcio “anystyriol” wrth Lyn Tegid.
Pan mae’r tywydd yn braf mae cannoedd o ymwelwyr yn parcio ar y B4403 ar ochr ddwyreiniol y llyn rhwng Bala a Llanuwchllyn.
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd bellach wedi cytuno ddydd Llun i ddynodi’r ffordd yr un lle nad oes modd stopio car ar unrhyw bryd.
Bydd gan y cyngor yr hawl i dowio ceir sydd ddim yn cyd-fynd â’r rheolau.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio Iwan ap Trefor ei fod yn “amlwg bod Llyn Tegid yn denu llawer iawn o ymwelwyr yn ystod tywydd braf yr haf”.
“Yn ddiweddar mae hyn wedi arwain at broblemau parcio ar hyd y ffordd gul yn ardal Llangywer ar y B4403.
“Mae’r parcio anystyriol nid yn unig wedi achosi tagfeydd a chodi gwrychyn trigolion lleol ond wedi arafu’r gwasanaethau brys.”
‘Pryder’
Dywedodd Clwyd Davies, Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llangywer wrth Newyddion S4C: “Pan mae’r tywydd yn brafio da ni’n teimlo bod o’n mynd allan o reolaeth a bod ‘na geir yn parcio ar hyn ochr y ffordd yma.
“Ma’ na achlysur 'di bod mwy nag unwaith lle ‘da ni ‘di methu mynd drwodd am bod ‘na gymaint o geir ‘di parcio.”
Dywedodd Llio Eiri sy’n byw yn lleol: “Be sy’n digwydd os ydi’r gwasanaethau brys methu cyrraedd mewn argyfwng, a bod y ffordd ‘di cau.
“A dyna di’r pryder mwya’ i ni bobl leol.”