Apêl wedi i dri chi bach gael eu darganfod wedi marw mewn bocs sgidiau
Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi apêl wedi i dri chi bach marw gael eu darganfod mewn bocs sgidiau yng Nghasnewydd.
Cafodd y cŵn newydd-anedig eu darganfod gan aelod o’r cyhoedd tua 11.00 ddydd Gwener yng Nghasnewydd.
Roedd y tri chi bach o frid anhysbys mewn bocs esgidiau du ac wedi eu hamlapio mewn siwmper las.
Dywedodd Swyddog Achub Anifeiliaid yr RSPCA, Danielle Wilson: “Roedd cordiau bogail y tri chi bach hyn yn dal ynghlwm, felly ni allent fod wedi bod mor hen â hynny o gwbl.
“Dydyn ni ddim yn gwybod a wnaethon nhw farw yn ystod genedigaeth a doedd rhywun ddim yn gwybod beth i'w wneud â'r cyrff, neu a fuon nhw farw’n fuan wedyn.
“Rydyn ni’n gwneud ymholiadau am deledu cylch cyfyng yn yr ardal, ac wedi gosod poster yn y lleoliad mewn ymgais i gael gwybodaeth.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth uniongyrchol i roi galwad i ni ar linell Apêl Arolygiaeth yr RSPCA ar 0300 123 8018, os wnânt nhw ddyfynnu 1288099.”
Ychwanegodd Danielle: “Beth bynnag sydd wedi digwydd yma, mae’n drist iawn bod y cwn bach hyn wedi marw a hoffem ddiolch i’r aelod o’r cyhoedd am roi gwybod.”