Rhybudd i deithwyr wrth i'r Foo Fighters berfformio yng Nghaerdydd
Fe fydd yr haf o ddigwyddiadau mawr yn parhau yn y brifddinas nos Fawrth, gyda'r Foo Fighters yn perfformio yng Nghaerdydd.
Bydd Dave Grohl, Nate Mendel, Chris Shiflett, Pat Smear, Rami Jaffee a Josh Freese yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2007.
Bydd Ffordd Scott a Stryd y Parc ar gau o 07:00 fore Mawrth.
Fe fydd nifer o ffyrdd yn cau 0 15:00 ymlaen, gan gynnwys Heol Ddwyreiniol y Bontfaen, Stryd Tudor a Kingsway.
Bydd Stryd y Castell, Sgwâr Canolog, Stryd Duke a Heol Eglwys Fair ymysg eraill ar gau yn gyfan gwbl.
Bydd giatiau i Stadiwm Principality yn agor am 16:00.
Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i gynllunio eu teithiau a chaniatáu digon o amser i gyrraedd y cyngerdd.
Ychwanegodd Traffig Cymru y bydd hi'n debygol y bydd yr M4 yn brysurach na'r arfer, gyda disgwyl "cynnydd o 15% mewn traffig cer Caerdydd yn ystod digwyddiadau rhyngwladol."
Mae rhai o sêr mwya'r byd wedi perfformio yng Nghaerdydd dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys Pink a Taylor Swift.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod disgwyl i wasanaethau fod yn hynod o brysur.
Bydd Gorsaf Heol y Frenhines yn cau am 21:30 heblaw i'r rhai sydd angen mynediad hygyrch a chwsmeriaid sydd angen teithio i'r Bae.
Ychwanegodd y gwasanaeth y dylai pawb arall ddefnyddio Gorsaf Caerdydd Canolog ar ôl yr amser yma, lle bydd system ciwio ar ôl y digwyddiad yn ei le.