Newyddion S4C

Honiadau betio: Cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio oedi ymchwiliad nes ar ôl yr etholiad

24/06/2024

Honiadau betio: Cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio oedi ymchwiliad nes ar ôl yr etholiad

Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o geisio oedi canfyddiadau ymchwiliad mewnol ar unigolion yn betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak ddydd Llun fod y Ceidwadwyr wedi bod yn cynnal eu hymchwiliad “mewnol” eu hunain.

Fe fyddan nhw’n “gweithredu” os yw’n dod o hyd i unrhyw ddrwgweithredu o fewn y blaid.

Ond dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer bod yr ymchwiliad yn ymgais i fwrw’r stori “i ochr arall yr etholiad” a’i fod yn dangos “methiant llwyr o arweinyddiaeth”.

“Mae wedi cyhoeddi ymchwiliad, ymchwiliad sydd wedi’i gynllunio at un diben, sef bwrw hyn i ochr arall yr etholiad,” meddai yn ystod araith yn Northmapton.

“Byddai’n cymryd hanner awr. Pwy oedd yn gwybod? A wnaethon nhw osod bet? Dyna fo.” 

Image
Maldwyn a Glyndŵr

‘Ddim yn ymwybodol’

Daw’r cyhoeddiad am y betio honedig wedi i Craig Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn sedd Maldwyn a Glyndŵr, gael gwybod ei fod dan ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo am osod bet ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Ers hynny mae wedi dod i’r amlwg bod tri o ymgeiswyr a swyddogion eraill hefyd dan ymchwiliad mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru Syr Robert Buckland a’r cyn-weinidog Tobias Ellwood wedi dweud eu bod nhw'n credu y dylid gwahardd y rhai sy’n cael eu cwestiynu gan y Comisiwn Gamblo.

Dywedodd Rishi Sunak ddydd Llun nad oedd “yn ymwybodol” o unrhyw ymgeiswyr Ceidwadol eraill sy’n wynebu ymchwiliad.

“Dyw’r (Comisiwn Gamblo) ddim yn siarad am yr unigolion maen nhw’n ymchwilio iddyn nhw,” meddai’r Prif Weinidog wrth newyddiadurwyr ar drywydd yr ymgyrch yng Nghaeredin ddydd Llun.

“Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw nad ydw i’n ymwybodol o unrhyw ymgeisydd arall y maen nhw’n edrych arno.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.