Newyddion S4C

'Diolch o galon': Taylor Swift yn cyfrannu at fanc bwyd yng Nghaerdydd

24/06/2024
swift banc bwyd caerdydd.png

Mae'r gantores Taylor Swift wedi gwneud cyfraniad i fanc bwyd yng Nghaerdydd wedi iddi berfformio yn y brifddinas yr wythnos ddiwethaf. 

Fe berfformiodd Swift o flaen dros 70,000 o bobl yn Stadiwm Principality nos Fawrth diwethaf. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Banc Bwyd Caerdydd eu bod nhw eisiau "diolch o galon i Taylor Swift am benderfynu gwneud cyfraniad hael i gefnogi ein gwaith wedi i'r Daith Eras ddod i Gaerdydd yr wythnos ddiwethaf". 

"Mae Taylor wedi ein helpu i roi sylw i'r angen parhaus am fanciau bwyd - ac rydym ni mor ddiolchgar am ei chefnogaeth," medden nhw.

Nid yw maint y cyfraniad wedi ei ddatgelu.

'Croeso'

Cafodd Taylor Swift ymateb byddarol yn ei chyngerdd yng Nghaerdydd nos Fawrth ar ôl agor y noson gydag ambell air o Gymraeg.

Gyda degau o filoedd o ‘Swifties’ yn Stadiwm Principality, fe wnaethon nhw ymateb gyda bloedd pan wnaeth y seren Americanaidd eu cyfarch gyda “shwmae”.

Yna, ychydig yn ddiweddarach, wrth annerch y dorf unwaith eto, dywedodd: “It is such an honour and a pleasure to say these words tonight – ‘Cardiff, croeso i daith Eras’.”

Roedd amcangyfrifon y gallai’r cyngerdd ddod â gwerth £64 miliwn o fudd economaidd i’r brifddinas, yn ôl Dr Robert Bowen, darlithydd busnes o Brifysgol Caerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.