Newyddion S4C

Beiciwr 20 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn y canolbarth

24/06/2024
Elenydd

Mae gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yng nghanolbarth Cymru.

Bu farw y gyrrwr 20 oed o ganlyniad i’r gwrthdrawiad ar ffordd yr A44 rhwng Llangurig a Sweet Lamb, ger ffin Ceredigion a Phowys ar fynyddoedd Elenydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng 19.55 a 20.05 ddydd Sadwrn.

“Roedd beic modur Honda du yn teithio tua'r dwyrain i gyfeiriad Llangurig pan adawodd y ffordd,” meddai datganiad yr heddlu.

“Yn anffodus, bu farw'r beiciwr, dyn 20 oed, o ganlyniad i'w anafiadau.

“Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod ac yn cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol.”

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod er mwyn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.