Actor Pirates of the Caribbean wedi marw ar ôl ymosodiad siarc
Mae un o actorion y gyfres ffilmiau Pirates of the Caribbean wedi marw ar ôl i siarc ymosod arno yn Hawaii.
Fe gadarnhaodd y gwasanaethau brys mewn cynhadledd i'r wasg yn Hondolulu fod Tamayo Perry, 49 oed, wedi marw brynhawn Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Malaekahana ar yr ynys am tua 13:00 amser lleol. Er iddo gael ei gludo i'r lan gan jet-ski fe gadarnhaodd parafeddygon fod Mr Perry wedi marw.
Roedd Tamayo Perry wedi ymddangos yn y ffilm Pirates of the Caribbean: On Stranger Tides, sef y bedwaredd ffilm yn y gyfres.
Mae'r ffilmiau, sy'n dilyn hannes y môr-leidr ecsentrig Capten Jack Sparrow, sy'n cael ei chwarae gan yr actor Johnny Depp, hefyd yn cynnwys enwau mawr fel Penelope Cruz a Geoffrey Rush.
Roedd gan Mr Perry hefyd rannau actio yn Lost, Hawaii Five-0, Blue Crush a Charlie's Angels 2, ac fe ymddangosodd mewn hysbysebion Coca-Cola.