Newyddion S4C

Yr Alban allan o Euro 2024

24/06/2024
Yr Alban Euro 2024

Mae'r Alban allan o gystadleuaeth Euro 2024 ar ôl colli yn erbyn Hwngari nos Sul.

Sgoriodd Kevin Csoboth yn y degfed munud o amser ychwanegol i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Doedd yr Albanwyr ddim wedi llwyddo i ennill unrhyw gêm yn y gystadleuaeth gan golli o 5-1 yn erbyn yr Almaen a chael gêm gyfartal yn erbyn Y Swistir.

Ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Yr Alban, Steve Clark bod angen i'r garfan baratoi ar gyfer y gemau nesaf a chyrraedd prif gystadleuaeth arall.

"Mae'n gêm greulon, mae rhaid i chi ddioddef, ac rydym yn dioddef gyda'r Tartan army, rydym yn dioddef gyda'r cefnogwyr sydd 'nôl gartref.

"Ond mae rhaid i ni gael cyfnod o adferiad, paratoi ein hunain a bod yn barod i fynd eto achos allwn ni ddim aros am 26 mlynedd arall cyn cystadlu mewn prif gystadleuaeth dramor eto.

"Hwnna ydi'r nod nesaf."

Bydd Yr Alban yn chwarae nesaf ym mis Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn erbyn Portiwgal, Croatia a Gwlad Pwyl.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.