Nifer wedi marw mewn ymosodiad ar eglwysi a synagogau yn Rwsia
24/06/2024
Mae nifer wedi marw yn ystod ymosodiad ar yr heddlu, capeli a synagogau yn ne Rwsia ddydd Sul.
Roedd dynion arfog wedi targedu dinasoedd Derbent a Makhchkala yng Ngweriniaeth Dagestan ar ŵyl Pentecost.
Mae o leiaf 15 heddwas, offeiriad a swyddog diogelwch wedi marw, meddai arweinydd Dagestan, Sergei Melikov.
Ac mae o leiaf chwech o'r ymosodwyr wedi marw. Mae'r heddlu yn dal i chwilio am eraill.
Dyw'r heddlu ddim yn gwybod eto pwy sydd yn bennaf gyfrifol am yr ymosodiad.
Mae Dagestan, un o rannau tlotaf Rwsia, yn weriniaeth Fwslimaidd yn bennaf.
Llun: Ria Novosti / Wochit