Newyddion S4C

Nigel Farage yn dweud bod Donald Trump wedi 'dysgu llawer' ganddo

24/06/2024
Nigel Farage

Mae Nigel Farage wedi honni bod cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi “dysgu llawer” o astudio ei areithiau cyn iddo ymgeisio am ei swydd.

Wrth siarad â rhaglen The Leader Interviews – Tonight nos Sul ar ITV, gwadodd arweinydd Reform UK ei fod yn meddwl mai fersiwn Prydain o Mr Trump oedd o.

“Rwy’n meddwl ein bod ni’n wahanol iawn ond rwy’n meddwl ein bod ni’n meddwl yr un peth ar lawer o bethau,” meddai. 

Ychwanegodd: “Mae wedi dysgu cryn dipyn oddi wrthyf, rwy’n meddwl ei fod yn mynd y ddwy ffordd ... roedd yn gwylio fy areithiau yn Senedd Ewrop ers blynyddoedd lawer ... cyn iddo benderfynu ymgeisio.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd y cyn-arlywydd wedi dweud hyn wrtho, atebodd Mr Farage: “Rwy’n gwybod bod hyn yn wir.”

Mae Mr Farage wedi canmol Mr Trump dro ar ôl tro.

Cyn ei benderfyniad i ymuno â Reform UK yn gynharach y mis hwn, roedd ymgeisydd y blaid ar gyfer Clacton wedi dweud ei fod yn bwriadu helpu Mr Trump gyda’i ymgyrch arlywyddol eleni.

Ond mae wedi cyfaddef ers hynny efallai y bydd y sefyllfa yn newid: “Os caf fy ethol yn AS dros Clacton, a fy mod i yno bob dydd Gwener ... fe ddaw yn anoddach ond nid yn amhosib (i gynnig cymorth i Mr Trump)."

Mae Mr Farage hefyd wedi ailadrodd ei honiad bod y Gorllewin wedi “ysgogi” ymosodiad Vladimir Putin ar Wcráin.

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai’n delio ag Arlywydd Rwsia, dywedodd wrth ITV: “Wel, rydyn ni wedi ceisio trwy sancsiynau i’w wanhau wrth gwrs, ond y cyfan sydd wedi’i wneud mewn gwirionedd yw ei yrru i freichiau China.

“Mae angen iddo wybod bod yna fygythiad nawr, mae angen iddo wybod mae'n gallu mynd mor bell a dim pellach.

“Rwy’n meddwl bod y Gorllewin yn hanesyddol, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi ysgogi Putin yn wirion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.