Dau wedi eu harestio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd
23/06/2024
Mae dau ddyn wedi eu harestio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd fore dydd Sul.
Cafwyd hyd i gorff y dyn 44 oed ychydig cyn 07:00 yn ardal Chapel Wood o Bentwyn.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd.
Mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i deulu'r dyn a fu farw ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un allai fod o gymorth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400206063.
Llun: Google