Amheuaeth dros bresenoldeb Andy Murray yn Wimbledon
Mae amheuaeth a fydd Andy Murray yn medru cystadlu yn Wimbledon ar ôl cael llawdriniaeth ar ei asgwrn cefn.
Fe dynnodd Murray, 37 oed, allan gydag anaf yn set gyntaf ei gêm ail rownd yn erbyn Jordan Thompson yng Nghlwb y Frenhines ddydd Mercher.
Fe gafodd Murray sganiau cyn iddo chwarae yn erbyn Thompson wnaeth arwain at lawdriniaeth ar ei gefn ddydd Sadwrn.
Roedd Murray'n paratoi i chwarae yn Wimbledon, sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf, ar gyfer yr hyn oedd yn cael ei dybio fyddai ei ymddangosiad olaf yn y gystadleuaeth.
Ond roedd ychydig o ddryswch brynhawn ddydd Sul yn dilyn cyhoeddiad gan Gymdeithas Chwaraewyr Tenis Proffesiynol yr ATP ar y cyfryngau cymdeithasol fod Murray wedi tynnu allan o Wimbledon. Fe wnaeth y gymdeithas ddileu’r neges yn hwyrach.
Ac yn ôl adroddiadau nid yw tîm Murray wedi cyhoeddi’n swyddogol eto beth yw ei benderfyniad.
Fe enillodd yr Albanwr bencampwriaeth Wimbledon ddwywaith yn 2013 a 2016.
Mae amheuaeth hefyd a fydd yn medru cystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris fydd yn cychwyn ddiwedd mis Gorffennaf.
Llun: Wochit