Newyddion S4C

Diflaniad Jay Slater yn 'hunllef' i'r teulu medd ei dad

23/06/2024
Jay Slater

Mae tad dyn 19 oed sydd wedi bod ar goll ar ynys Tenerife ers wythnos wedi gwneud apél emosiynol iddo ddychwelyd yn ddiogel.

Roedd Jay Slater, o Oswaldtwistle yn Sir Gaerhirfryn wedi teithio i’r ynys ar gyfer gŵyl gerddoriaeth ac ar ei wyliau cyntaf heb ei rieni.

Nid oes unrhyw un wedi clywed ganddo ers iddo ffonio ffrind toc cyn 09:00  ddydd Llun, yn dweud ei fod ar goll a bod angen dŵr arno.

Dywedodd tad Mr Slater, Warren Slater, ei fod "yn gobeithio bod rhywun wedi ei helpu oddi ar y mynydd".

"Dyna'r cyfan dwi eisiau, bod rhywun wedi ei helpu i ddod oddi ar y mynydd yma," meddai.

"Fi jyst eisiau fe nôl a dyna ni. Fy mab ydy o."

Ychwanegodd fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "hunllef, jyst hunllef".

Dywedodd brawd Mr Slater, Zak Slater: "Dydyn ni ddim yn gwybod ble mae e, beth sydd wedi digwydd, na dim byd. 

"Dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Rydyn ni eisiau iddo ddod adref yn ddiogel."

Fe welwyd Mr Slater ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.

Mae ffrindiau a theulu Mr Slater wedi dweud ei fod wedi gadael y grŵp y bu'n teithio gyda nhw yn gynharach yn nhref Playa de las Americas yn ne’r ynys.

Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod cyn teithio i'r parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.

Roedd heddlu Sir Gaerhirfryn wedi cynnig cefnogi swyddogion ar yr ynys Ddedwydd ddydd Gwener yn eu hymdrechion i ddod o hyd i Mr Slater.

Ond mae awdurdodau Tenerife wedi dweud eu bod nhw’n "fodlon bod ganddyn nhw'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw".

Mae timau achub wedi bod yn chwilio ffordd fynydd ac mewn cwm ger pentref Masca.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.