Trafferthion teithio 'sylweddol' ym maes awyr Manceinion ddydd Sul
Mae perygl y gallai pobl sydd yn gobeithio hedfan allan o faes awyr Manceinion wynebu oedi ddydd Sul, a hynny'n dilyn toriad mewn cyflenwad trydan yn yr ardal.
Dywed y maes awyr bod angen i deithwyr sydd yn hedfan allan o adeiladau terfynell 1 a 2 gysylltu gyda'u cwmnïau teithio am wybodaeth.
Mewn datganiad, dywedodd swyddogion o'r maes awyr bod y diffyg trydan wedi arwain at "darfu sylweddol" gyda disgwyl y bydd oedi i nifer fawr o hediadau yn ystod y dydd.
Y cyngor yw bod angen i unrhyw un sydd yn bwriadu hedfan o adeiladau terfynell 1 a 2 i gysylltu gyda'u cwmnïau teithio gan wneud hynny cyn cyrraedd y maes awyr.
Un sydd wedi ei ddal yn y trafferthion ydy Owain Tudur Jones y sylwebydd pêl-droed. Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd fod ei hediad o Mallorca i Fanceinion wedi ei hoedi am ddwyawr.
Unwaith yr oedd ar yr awyren bu'n eistedd ynddi ar y lanfa wedyn am deirawr yn ychwanegol cyn cael dechrau ei daith adref.
'Ciwiau hir'
Dywedodd cwmni hedfan easyJet, sy’n gweithredu hediadau o derfynell 1, fod “ciwiau hir iawn” yno ddydd Sul, sy’n golygu y gallai teithwyr fynd ar deithiau hedfan gyda bagiau caban yn unig os oedd modd.
Dywedodd llefarydd: “Er y tu allan i’n rheolaeth, hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a brofwyd o ganlyniad.
“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu ac yn gweithio’n agos gyda thîm y maes awyr i leihau’r aflonyddwch.”
Yn y cyfamser, roedd nifer o hediadau oedd yn cyrraedd yn cael eu dargyfeirio i feysydd awyr eraill.
Bu’n rhaid i un awyren Singapore Airlines a oedd yn cyrraedd o Houston yn Texas fynd i Heathrow tra bu’n rhaid i un arall, a ddaeth i mewn o Singapore, lanio yn Gatwick.
Cafodd awyren Etihad Airways o Faes Awyr Rhyngwladol Abu Dhabi Zayed ei dargyfeirio i Faes Awyr Birmingham.
Inline Tweet: https://twitter.com/manairport/status/1804835705337553212