Prif swyddog data'r Ceidwadwyr dan ymchwiliad am fetio ar ddyddiad yr etholiad
Mae prif swyddog data’r Blaid Geidwadol wedi cymryd saib o'i waith yn wyneb honiadau iddo osod betiau ar amseriad yr Etholiad Cyffredinol.
Mae asiantaeth newyddion PA yn deall bod Nick Mason wedi cymryd y cyfnod o absenoldeb ar ôl dod yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae am fetio honedig ar amseriad yr etholiad cyn i'r dyddiad gael ei gyhoeddi.
Mr Mason yw'r pedwerydd Ceidwadwr blaenllaw mewn ychydig ddyddiau i fod yn destun y fath ymchwiliad o fewn rhengoedd y blaid.
'Dwsinau' o fetiau
Cafodd yr honiadau diweddaraf eu cyhoeddi gan The Sunday Times, oedd yn honni bod dwsinau o fetiau wedi’u gosod gydag enillion posib gwerth miloedd o bunnoedd.
Mae’r newyddion yn ergyd newydd i obeithion Rishi Sunak o lywio ymgyrch etholiadol y Torïaid ar y trywydd iawn ar ôl i dri ffigwr Ceidwadol arall gael eu henwi yn y sgandal.
Mae Tony Lee, cyfarwyddwr ymgyrchoedd y blaid, a’i wraig Laura Saunders, yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae.
Mae Ms Saunders, ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Gogledd Orllewin Bryste, wedi dweud y bydd hi'n cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad.
Mae Craig Williams, a oedd yn ysgrifennydd preifat seneddol i’r Prif Weinidog ac yn ymgeisydd Ceidwadol dros Faldwyn a Glyndŵr, wedi cyfaddef iddo roi bet ar ddyddiad yr etholiad ac mae hefyd yn wynebu ymchwiliad.
Partygate
Mae Michael Gove, yr Ysgrifennydd Tai, wedi condemnio’r adroddiadau diweddaraf, ac wedi cymharu’r sefyllfa â Partygate. “
Mae’n edrych fel un rheol iddyn nhw ac un rheol i ni,” meddai wrth y Sunday Times, gan ychwanegu: “Dyna’r peth mwyaf niweidiol posibl.”
Aeth Mr Gove ymlaen i awgrymu nad oedd yn “dderbyniol” i’r rhai mewn “sefyllfa freintiedig” yn agos at Brif Weinidog y DU ddefnyddio’r hyn a ddisgrifiodd fel “gwybodaeth fewnol i wneud arian ychwanegol i chi’ch hun”.
Ychwanegodd: “Rydych chi, i bob pwrpas, yn sicrhau mantais yn erbyn pobl eraill sy’n betio’n gwbl deg a heb y wybodaeth honno. Felly os yw’r honiadau hyn yn wir, mae’n anodd iawn eu hamddiffyn.”
Disgrifiodd llefarydd Llafur yr honiadau diweddaraf fel rhai “hollol hynod” a galwodd ar Mr Sunak i atal y rhai oedd yn gysylltiedig â’r sgandal fetio.
Yn y cyfamser galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Mr Sunak i ymyrryd yn bersonol, gydag ymchwiliad gan Swyddfa'r Cabinet i'r adroddiadau.
Llun:PA