Newyddion S4C

Dyn lleol 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn ardal Wrecsam

22/06/2024
Gwrthdrawiad Wrecsam

Mae dyn lleol 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn ardal Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw am 07:30 fore dydd Sadwrn yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd, sef Audi S3 arian, yn ardal Bronwylfa yn Wrecsam, rhwng Rhosllannerchrugog a Choedpoeth.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod y dyn o ardal Wrecsam wedi marw yn y fan a’r lle. 

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac mae'r heddlu'n cydymdeimlo’n ddwys â theulu a ffrindiau’r dyn.

Mae'r Rhingyll Daniel Rees o’r Uned Troseddau Ffyrdd wedi apelio am unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad. 

"Os oedd unrhyw un yn yr ardal hon yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin ac un ai wedi gweld y gwrthdrawiad, y digwyddiadau a arweiniodd ato neu â lluniau camera cerbyd i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu'r digwyddiad cyfeirnod Q089998."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.